Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BIDWELL , MORUS , pregethwr Piwritanaidd, cyfnod y Weriniaeth . Enwyd ef yn un o'r 25 profwyr o dan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru ( 1649-52 ); erys profion cyfoes iddo dderbyn £138 am y gwaith hwn yn 1650 (a rhan o 1649 ), £75 am 1651 , a dau daliad o £50 yn 1652 ; y mae prawf hefyd iddo ddangos cryn ddiddordeb yn yr ysgol Biwritanaidd a sefydlwyd yn Abertawe . Gan nad adnewyddwyd y Ddeddf honno yn 1653 , penodwyd ef yn weinidog sefydlog ar gynulleidfa Eglwys Fair yn yr un dref. Yno yn 1658 y digwyddodd yr ymgiprys hyll rhyngddo ef a John ap John y Crynwr ; pan ofynnodd y Crynwr yn gecrus oni chydnabyddai Bidwell ei fod ef ( ap John ) yn wir bregethwr y Gair , cafodd fel ateb ergyd chwyrn yn ei wyneb. Bu Bidwell f. cyn 1660 , ac yr oedd y fath wrthwynebiad gan frenhinwr o'r enw Richard Seys i'w gorff orwedd yng nghangell yr Eglwys Fair fel y meiddiodd geisio rhwystro hynny gyda'r cleddyf, ond, medd yr hanes, trowyd ef ymaith gan y ‘penboethiaid’ a'i daflu i garchar.

Llyfryddiaeth:

  • Bodl. J. Walker , c. 13 (17, 20, 22, 22b);
  • Lambeth MS. 972 (366);
  • Bodl. J. Walker , c. 4 (72);
  • Besse , A collection of the sufferings of the people called Quakers for the testimony of a good conscience from the time of their being first distinguished by that name in the year 1650 to the time of the act commonly called the Act of toleration granted to Protestant dissenters in the first year of the reign of King William the Third and Queen Mary in the year 1689 , 1753 , i, 735;
  • Publications of the Friends' Historical Society , suppt. 6 (12).

Awdur:

Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor