Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BEYNON , ROSSER (‘ Asaph Glan Tâf ’; 1811 - 1876 ), cerddor ; g. yng Nglyn Eithinog , Glyn Nedd , Morgannwg , mab John ac Elizabeth Beynon . Yn 1815 symudodd y tad a'r fam a saith o blant i fyw i Merthyr Tydfil . Cafodd Rosser ychydig addysg yn ysgol George Williams , ond aeth i weithio i'r gwaith haearn yn 8 oed, a dringodd i fod yn is-oruchwyliwr yno. Dechreuodd ymddiddori mewn cerddoriaeth yn ieuanc, a thrwy lafurio yn galed i'w ddiwyllio ei hunan daeth yn gerddor da. Yn 1835 penodwyd ef yn arweinydd y canu yng nghapel Annibynwyr Soar , Merthyr . Casglodd y bobl ieuainc at ei gilydd, a sefydlodd ddosbarth i ddysgu cerddoriaeth , a darnau cerddorol a thonau newydd. Ystyrid ef yn arweinydd canu rhagorol, a llafuriodd yn ddyfal i wella a choethi canu cynulleidfaol. Yn 1836 ysgrifennodd ‘ Sylwadau Perioriaethol ’ i'r Diwygiwr , ac wedi hynny amryw ysgrifau eraill ar gerddoriaeth. Efe hefyd oedd golygydd y tonau yn y cylchgrawn. Yn 1845 dug allan Rhan I casgliad o donau ac anthemau, dan yr enw Telyn Seion , a'r holl rannau yn un llyfr yn 1848 . Ceir yn y casgliad 20 o donau o'i waith, ac ynddo am y tro cyntaf yr ymddangosodd y tonau ‘ Eifionydd ’ a ‘ Groeswen ’ o waith John Ambrose Lloyd . Dyma'r casgliad cyntaf y ceir rhifnodau amser y metronom wrth y gerddoriaeth. Perfformiodd amryw o weithiau cyflawn gyda'i gôr. Yr oedd yn feirniad craff a chymeradwy, a bu'n gwasanaethu yn eisteddfodau De a Gogledd Cymru . Bu f. 3 Ionawr 1876 , a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Cefn , Merthyr Tydfil .

Llyfryddiaeth:

  • Y Diwygiwr , 1850 ;
  • Y Cerddor , Hydref 1891 ;
  • Y Geninen , 1887 , 63;
  • Rhestr gyda nodiadau byrion, o Enwogion Cymreig o 1700 i 1900 , Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1908 .

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn