Yno daeth i gyffyrddiad a nifer o Gymry a oedd yn ymddiddori yn llenyddiaeth Cymru a'r eisteddfod — David Lewis (mab y Parch. James Lewis , Llanwenarth ), Thomas Williams (‘ Gwilym Morganwg ’) , a John Morgan (‘ Rhifyddwr Egwan ’ Seren Gomer ). Daeth i ymgydnabyddu ag arddull lenyddol trwy ddilyn dadleuon Thomas Price (‘ Carnhuanawc ’) a David Owen (‘ Brutus ’) ar dlodi'r iaith a llenyddiaeth Gymraeg yn Seren Gomer .
Priododd Catherine Anthony , merch Benjamin Anthony , Llanwenarth , 17 Gorffennaf 1826 , ac fe'i cysylltodd ei hun â'i dad-yng-nghyfraith mewn busnes cario nwyddau mewn gwagenni ar ffyrdd ac ar gamlas .
Penodwyd ef yn ysgrifennydd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni yn 1833 . Ymddiswyddodd yn 1839 , ac yn 1843 dewiswyd ef yn feistr tloty undeb y Fenni , ond ni pheidiodd a gweithio'n ddiwyd dros Gymdeithas y Cymreigyddion . Yn 1863 cychwynnodd fasnach gwerthu glo a halen yn y Fenni .
Bu f. 10 Rhagfyr 1882 , a'i gladdu ym mynwent capel y Bedyddwyr , Llanwenarth , lle y bu'n aelod am dros hanner canrif.
Ychydig fu ei gynnyrch llenyddol, er y medrai nyddu englyn ar bron bob amgylchiad. Yn eisteddfod y Fenni , 1835 , gwobrwywyd ef am draethawd ar ‘ Hanes Gwent dan lywodraeth Rufeinig ,’ ond ni chyhoeddwyd mohono ( N.L.W. MS. 13959 ). Ei gyfraniad pennaf i Gymru oedd ei waith ynglyn â Chymdeithas Cymreigyddion y Fenni ; iddo ef, yn anad neb, y mae llwyddiant yr eisteddfodau a gynhaliwyd o dan nawdd y gymdeithas i'w briodoli.
William Williams, F.L.A. (1885-1950), Aberystwyth