BEVAN, THOMAS (1796? - 1819), cenhadwr o dan Gymdeithas Genhadol Llundain

Enw: Thomas Bevan
Dyddiad geni: 1796?
Dyddiad marw: 1819
Priod: Mary Bevan (née Jacob)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr o dan Gymdeithas Genhadol Llundain
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan Lewis Evans

Ganwyd yng nghymdogaeth y Neuaddlwyd, Sir Aberteifi, tua 1796. Hanoedd o gartref crefyddol, a darllenai'r Beibl yn 8 oed. Cafodd 'droedigaeth' wrth fferm Nantgwynfynydd, ac ymaelododd yn y Neuaddlwyd 19 Tachwedd 1810. Yno yr oedd y Dr. Thomas Phillips yn weinidog. Anogwyd ef i bregethu. Aeth i athrofa'r Dr. Phillips i Benybanc, ac oddi yno i goleg y Drefnewydd a Gosport. Trefnwyd iddo ef a Stephen Laidler fyned i Fadagascar. Ordeiniwyd ef yn Neuaddlwyd 20 a 21 Awst 1817. Priododd Mary Jones (Mary Jacob, a chymryd ei henw bedydd), merch Pen-yr-allt Wen o'r un ardal. Hwyliasant am Fadagascar ar 9 Chwefror 1818; cyrraedd Mauritius ar 3 Gorffennaf 1818, ymadael ymhen pum wythnos a glanio ym mhorthladd Tamatave, Madagascar, 18 Awst 1818; cychwyn ysgol a 10 o blant; cyrchu ei deulu o Mauritius a dychwelyd 6 Ionawr 1819; eu marw oll, ei blentyn 20 Ionawr, ef ei hun 31 Ionawr, a'i briod 3 Chwefror 1819, a'u claddu ym mynwent Tamatave.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.