BEVAN, SILVANUS (fl. 1715-1765), meddyg a Chrynwr

Enw: Silvanus Bevan
Priod: Martha Bevan (née Heathcote)
Priod: Elizabeth Bevan (née Quare)
Rhiant: Jane Bevan (née Phillips)
Rhiant: Silvanus Bevan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg a Chrynwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Meddygaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Roedd o deulu yn Abertawe, a pherthynas (meddai Morris Letters, ii, 336) i Arthur Bevan, A.S. Yr oedd yn Abertawe Grynwr o'r enw William Bevan, a fwriwyd i garchar yn 1658, ac a fu farw yn 1701 yn 74 oed. Priododd ei fab, Silvanus Bevan, Jane Phillips o Abertawe yn 1685, a bu iddynt amryw feibion; aeth dau o'r rheini i Lundain.

SILVANUS BEVAN, yr hynaf o'r ddau, sydd dan sylw yn awr. Cychwynnodd ef fusnes fferyllydd yn 2 Old Slough Court Oxford-street yn 1715, ond yn ddiweddarach aeth yn feddyg, yn Hackney. Etholwyd ef yn 1725 yn F.R.S. ar gynnig Isaac Newton.

Yn hwyr o ddydd, ac wedi ymddeol o'i alwedigaeth, daeth i deimlo diddordeb mewn hynafiaethau Cymreig, a dug hyn ef yn 1760 i gyswllt a Richard Morris; y mae amryw gyfeiriadau ato yn y Morris Letters (yn bennaf ii, 265, 336-7, 416) sy'n rhoi darlun ohono: dyn â'i ddiddordebau ar wasgar; casglwr ffosylau, cywreinbethau, llyfrau, darluniau, etc.; cerfiwr ar bren; a garddwr selog. Geilw Morris ef yn 'hen lanc,' ond gwr gweddw oedd - yn 1715 priododd Elizabeth, ferch Daniel Quare, gwneuthurwr clociau. Ailbriododd â Martha Heathcote. Yn 1761 yr oedd 'yn 80 oed,' a darllenwn mewn llythyr arall ei fod 'yn afler a'i ddwylo'n crynu.' Ni siaradai Gymraeg ond 'yn gandryll'; ni welsai erioed lawysgrif Gymraeg, a 'synnai fod gennym y fath bethau.' Yn 1762, fodd bynnag, etholwyd ef yn aelod o'r Cymmrodorion. Cymerai ddiddordeb mawr yn America; a bu ganddo ef a'i frawd gryn ran yn sefydlu'r ysbyty cyntaf yn Philadelphia.

Cymerwyd ei fusnes fferyllydd gynt yn Plough Court (busnes y mae cwmni presennol Allen and Hanbury'n olynydd uniongyrchol iddo) drosodd gan ei frawd TIMOTHY BEVAN 1704 - 1786, a briododd Hannah, ferch John Gurney. Mab iddynt hwy oedd JOSEPH GURNEY BEVAN (1753 - 1814), a ddaliodd ymlaen gyda'r busnes ond sy'n fwy adnabyddus fel amddiffynnydd daliadau'r Crynwyr - y mae ysgrif arno yn y D.N.B.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.