BEVAN
,
WILLIAM LATHAM
(
1821
-
1908
),
offeiriad
;
g. yn
Beaufort
,
sir Frycheiniog
,
1 Mai 1821
, mab
William Hibbs
Bevan
,
uchel siryf Brycheiniog
. Addysgwyd ef yn
Ysgol Rugby
a
Choleg Balliol
,
Rhydychen
; symudodd i
Goleg Hertford
ar ei ethol yn
ysgolor
. Graddiodd yn
1842
yn y clasuron (dosbarth II) a'i urddo'n
ddiacon
gan
esgob Llundain
yn
1844
. Ar ôl blwyddyn yn
gurad
S. Philip
,
Stepney
, urddwyd
ef yn
offeiriad
yn
1845
a'i benodi'n
ficer
y Gelli
(
Hay
). Bu yno am 56 mlynedd. Bu'n
brebendari Llanddewi Aberarth
yn
eglwys gadeiriol Tyddewi
1876-9
ac yn
ganon
1879-1903
. Codwyd ef yn
archddiacon Brycheiniog
yn
1895
a bu'n
gaplan arholi
i
esgob Tyddewi
1881-1897
. Priododd
Louisa
, merch
T.
Dew
,
Whitney Court
, ger
y Gelli
, a bu f.
24 Awst
, a'i gladdu yn
y Gelli
. Ymhlith pethau eraill ysgrifennodd hanes
esgobaeth Tyddewi
(
1888
) ynghyd â phamffledi er amddiffyn yr
Eglwys
a chyfraniadau i
eiriadur Beiblaidd
Smith
, llawlyfrau daearyddol, a (gyda'r
Canon
H. W.
Phillott
) hanes y ‘
Mappa Mundi
’ ym
mhrifeglwys Henffordd
.
O'i feibion, g. y pedwerydd,
EDWARD
BEVAN
(
1861
-
1934
),
esgob
cyntaf
Abertawe
ac
Aberhonddu
, yn
Weymouth
,
27 Hydref 1861
. Addysgwyd ef gartref ac yng
Ngholeg Hertford
,
Rhydychen
, lle y graddiodd yn
B.A.
yn
1884
. Wedi ei urddo'n
ddiacon
yn
1886
ac yn
offeiriad
yn
1887
, bu'n
gurad
yn
Weymouth
, ac yna aeth yn
gaplan
i'r
Gordon Boys’ Home
yn
Woking
yn
1891
. Daeth yn
ficer
Aberhonddu
yn
1897
, a dilyn ei dad yn
archddiacon
yn
1907
. Daliodd y swydd hon, a bu'n
brebendari Llanfaes
yn
eglwys gadeiriol Tyddewi
, hyd
1923
; cysegrwyd ef yn
esgob (cynorthwyol)
Abertawe
yn
1915
a'i benodi'n
esgob
cyntaf yr esgobaeth newydd yn
1923
. Rhoddodd lawer o'i amser a'i eiddo er cyfoethogi ei gadeirlan yn
Aberhonddu
a'i harddu (yr oedd yn
ddeon
yn ogystal ag yn
esgob
), a chofir ef yn arbennig am ei waith dros ddynion a bechgyn. Bu f. yn
Weymouth
,
2 Chwefror
, a'i gladdu dan gysgod yr eglwys gadeiriol yn
Aberhonddu
.
Llyfryddiaeth:
-
Crockford's Clerical Directory
, 1858
ff
;
-
Foster
,
Alumni Oxonienses
;
-
Who's who?
;
- gwybodaeth breifat.
Awdur:
Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth