BEVAN, BRIDGET ('Madam Bevan'; 1698 - 1779), noddwraig ysgolion cylchynol

Enw: Bridget Bevan
Ffugenw: Madam Bevan
Dyddiad geni: 1698
Dyddiad marw: 1779
Priod: Arthur Bevan
Rhiant: Elizabeth Vaughan (née Thomas)
Rhiant: John Vaughan
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: noddwraig ysgolion cylchynol
Maes gweithgaredd: Addysg; Dyngarwch
Awdur: Mary Clement

Merch ieuengaf John ac Elizabeth Vaughan, Cwrt Derllys, sir Gaerfyrddin. Bedyddiwyd hi 30 Hydref 1698 yn Eglwys Merthyr gan y rheithor, Thomas Thomas. Yr oedd, yn ôl pob tebyg, yn adnabod Griffith Jones , Llanddowror, yn ieuanc, am fod ei thad yn drefnydd ysgolion S.P.C.K. yn Sir Gaerfyrddin o 1700 hyd 1722, a Griffith Jones yn gofalu am ysgolion yn Lacharn (1709) a Llanddowror (1716); hefyd, cysylltwyd Griffith Jones â theulu'r Fychaniaid trwy briodas, gan iddo ef a Richard Vaughan (bu farw 1729), ewythr Bridget, briodi dwy chwaer, Margaret ac Arabella Philipps, Castell Pictwn, Sir Benfro.

Ar 30 Rhagfyr 1721 priododd Bridget Arthur Bevan, bargyfreithiwr o Lacharn. Gwnaethpwyd ef yn gofiadur bwrdeisdref Caerfyrddin, 1722-1741, ac yn aelod seneddol, 1727-1741. Ym Mai 1735 apwyntiwyd ef yn farnwr dros Dde a Gogledd Cymru. Ef oedd ysgutor ewyllys Syr Richard Steele. Bu farw 6 Mawrth 1743 yn 56 oed a chladdwyd ef yn eglwys Lacharn. (Rhoddir dyddiad ei farwolaeth fel 1745 gan y rhan fwyaf o haneswyr.)

Yn ieuenctid Bridget Bevan yr oedd Cwrt Derllys yn ganolfan bywyd crefyddol ac addysgol. Yn 1700 ysgrifennodd ei rheithor lythyr i'r S.P.C.K. yn cymeradwyo sefydlu ysgol elusennol ym mhob plwyf ym Mhrydain Fawr. Naturiol ydoedd felly iddi gymryd diddordeb yng ngwaith ei thad a'i hoffeiriad, a sefydlodd hi ei hun ddwy ysgol o leiaf - yn Llandeilo Abercywyn a Llandebïe. Bu ganddi ddylanwad mawr ar Griffith Jones, a phan ddechreuodd ef ei ysgolion cylchynol rywbryd rhwng 1731 a 1737, hi oedd ei brif noddwr a chynghorwr. O 1732 hyd 1738 ysgrifennodd ef 175 o lythyrau ati, ac fe gyhoeddwyd 94 ohonynt. Ychydig ar ôl marwolaeth ei wraig yn 1755, aeth Griffith Jones i fyw yng nghartref Mrs. Bevan yn Lacharn, lle y bu farw 8 Ebrill 1761, gan adael iddi holl drysorfa'r ysgolion, ynghyd â'i eiddo personol - rhyw £7,000 rhwng y cwbl - gyda gorchymyn iddi fynd ymlaen â'r ysgolion cylchynol. Gwnaeth hyn yn llwyddiannus iawn hyd ei marwolaeth yn 1779; yn wir, y flwyddyn 1773, gyda'i 242 o ysgolion a'i 13,205 o ysgolheigion, oedd y fwyaf llwyddiannus yn hanes y mudiad.

Gadawodd Mrs. Bevan £10,000 er mwyn cadw'r ysgolion ymlaen, ond dymchwelwyd ei hewyllys gan ddau berthynas a oedd hefyd yn ymddiriedolwyr, sef yr Arglwyddes Elizabeth Stepney o Lanelli, a'r Llyngesydd William Lloyd, Danyrallt, Llangadog. Trosglwyddwyd ei holl eiddo i lys y Siansri, ac yno y bu am gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain hyd nes y cynhyddodd i fod dros £30,000. Yn 1804 rhyddhawyd yr arian er mwyn y gwaith addysgol a fwriadwyd gan Madam Bevan, ond yn 1854 cymerwyd drosodd yr ysgolion a oedd ar ôl gan Gymdeithas yr Ysgolion Cenedlaethol, a daeth y mudiad ysgolion cylchynol Cymraeg i ben.

Heblaw bod yn noddwr i'r ysgolion hyn cymerodd Madam Bevan ddiddordeb drwy'i hoes yn y rhan fwyaf o fudiadau crefyddol, dyngarol, ac addysgol ei dydd.

Bu farw 11 Rhagfyr 1779 a chladdwyd hi yn eglwys Llanddowror ar 17 Rhagfyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.