Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BENNETT , RICHARD ( 1860 - 1937 ), hanesydd Methodistaidd ; g. yn Hendre , Cwm Pennant , Llanbrynmair , 21 Medi 1860 , yn fab i Edward Bennett , ffermwr , a'i wraig Jane ( Richards ) , a oedd o'r un cyff a Richard Lumley [q.v.] . Ni chafodd ond addysg gynradd, a bu fyw ar ei dyddyn genedigol hyd 1914 , pan ymneilltuodd (yn herwydd trymder ei glyw) i Fangor , ac wedyn i Gaersws , lle y bu f. 13 Awst 1937 , yn ddi-briod.

Er yn fore, yr oedd yn Bennett dueddfryd at chwilota hanesyddol , a chopïodd gofrestrau plwyfi ei ardal . Yn 1899 dechreuodd sgrifennu i'r Traethodydd . Yn 1905 aeth i Drefeca i ddarllen y llawysgrifau yno; ac o hynny allan bwriai bob gaeaf yn Nhrefeca , gan ddychwelyd at waith y fferm yn y gwanwyn. Efo a gopïodd lythyrau Trefeca at eu cyhoeddi yn Atodiadau Cylch. Cymd. Hanes M.C. ; cyfrannodd y llyfrau a ganlyn: Blynyddoedd Cyntaf Methodistiaeth ( Caernarfon , 1909 ), Methodistiaeth Trefaldwyn Uchaf ( Bala , 1929 ), Methodistiaeth Trefeglwys ( Llanidloes , 1933 ), Methodistiaeth Cemaes ( Llanidloes , 1934 ), Methodistiaeth Caersws ( Llanidloes , 1938 ). Wedi ei farw, cyhoeddwyd rhai o'i anerchiadau, gyda byr-gofiant, yn Cyfrol Goffa Richard Bennett ( Bala , 1940 ).

Yr oedd Bennett yn chwilotwr ac yn hanesydd o radd anarferol uchel — yn rhyfeddol felly pan gofiwn na chafodd unrhyw hyfforddiant. Nid yn unig yr oedd ei wybodaeth o lawysgrifau Trefeca bron yn wyrthiol yn ei manylder, ond yr oedd ganddo hefyd welediad eang iawn ar ei faes. Ni bu neb mwy teilwng nag ef o'r radd o M.A. a gyflwynwyd iddo, er clod, gan Brifysgol Cymru yn 1932 .

Llyfryddiaeth:

  • Y gyfrol goffa, a'r cyfeiriadau pellach ynddi;
  • Y Llenor , Gaeaf 1939 .

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor