BEDO HAFESP (fl. 1568), bardd o sir Drefaldwyn

Enw: Bedo Hafesp
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd o sir Drefaldwyn
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Norma Gwyneth Hughes

Urddwyd ef yn ddisgybl pencerddaidd yn ail eisteddfod Caerwys, 1568. Ymddengys oddi wrth y cywyddau dychan rhyngddo ef ac Ifan Tew iddo fod un adeg yn sersiant yn y Dre Newydd yng Nghedewen (Cardiff MS. 65, f. 112). Mae 14 cywydd o'i waith ar gael mewn llawysgrifau. Canodd i wŷr ei sir, a barnai Edmwnd Prys ei fod gyfartal ei ddawn a beirdd megis Owain Gwynedd, Sion Tudur, Ifan Tew, Rhys Cain, etc. (Llanstephan MS 43 , f. 22). Ni cheir dyddiad amdano yn ddiweddarach na'r flwyddyn 1585 pan ysgrifennodd gywydd marwnad i Sion Gruffydd o Lŷn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.