BEBB, LLEWELLYN JOHN MONTFORT (1862 - 1915), offeiriad

Enw: Llewellyn John Montfort Bebb
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1915
Priod: Louisa Bebb (née Fraser)
Plentyn: Gwyneth Marjory Thomson (née Bebb)
Rhiant: William Bebb
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yn Cape Town, De Affrig, 16 Chwefror 1862, mab hynaf y Parch. William Bebb. Addysgwyd ef yn ysgol Caerwynt a'r Coleg Newydd, Rhydychen; graddiodd yn B.A. â'r clod uchaf yn y clasuron, a'i benodi'n gymrawd ac yn ddarlithydd yng Ngholeg y Trwyn Pres. Codwyd ef yn is-brifathro'r coleg hwnnw yn 1892. Cafodd ei urddo'n ddiacon yn 1886 ac yn offeiriad yn 1887, ac yn 1898 penodwyd ef yn brifathro Coleg Dewi Sant, Lanbedr-Pont-Steffan. Gwnaethpwyd ef yn ganon mygedol yn eglwys gadeiriol Tyddewi yn 1910.

Priododd Louisa Fraser, o Lundain, yn 1886, a bu iddynt bedwar mab a thair merch. Bu farw 22 Tachwedd 1915 a'i gladdu yn Lanbedr-Pont-Steffan.

Un o'i ferched oedd Gwyneth Marjory Bebb (1889-1921) a ymgyrchodd dros agor proffesiwn y gyfraith i ferched.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.