BEALE, ANNE (1816 - 1900), awdures

Enw: Anne Beale
Dyddiad geni: 1816
Dyddiad marw: 1900
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: awdures
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Williams

Bu Anne Beale yn byw am flynyddoedd yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Ysgrifennodd nifer o nofelau ac ystorïau i ferched, ac yn 1842 cyhoeddodd gyfrol o'i barddoniaeth a'r rhagair wedi'i arwyddo 'Llwynhelig, Llandilo.' Y mae amryw o'r nofelau yn ymwneud â bywyd ac arferion y Cymry ac ychydig o'r awduron Seisnig sydd wedi dangos mwy o gydymdeimlad â Chymru. Hi yw awdur The Vale of the Towey, or Sketches in South Wales (1844), a ymddangosodd wedyn dan y teitl Traits and Stories of the Welsh Peasantry (1849); Rose Mervyn of Whitelake (1879), stori am helynt 'Becca'; a Gladys the Reaper (1881). Ysgrifennodd erthyglau ar bynciau Cymreig i gylchgronau Seisnig, megis 'Mr. Superintendent Pryse' i Temple Bar, Hydref, 1873. Bu farw yn 68 Belsize Road, South Hampstead, 17 Ebrill 1900, yn 84 mlwydd oed.

Ni ddylid camgymryd Anne Beale am Anna Chrysogon Beale, a fu farw 19 Medi 1917, yn 82 mlwydd oed; yr oedd honno'n chwaer i Dorothea Beale, prifathrawes y Ladies' College, Cheltenham.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.