BAXTER
,
GEORGE ROBERT WYTHEN
(
1815
-
1854
),
awdur
.
O'r
Bryn Uchaf
,
Llanllwchhaiarn
,
sir Drefaldwyn
. Ganwyd yn
Nhrefynwy
, a'i fedyddio ar
14 Meh. 1814,
yn unig fab
George Trotham
Baxter
(1762
-
1841)
o
Henffordd
, ac yn aelod o hen deulu a fu ers amser yn ardal y
Drenewydd
. Un o'i gyndeidiau oedd
Richard
Baxter
, y
diwinydd
enwog.
Ymaelododd mewn coleg yn
Rhydychen
ond ni raddiodd yno. Rhestrir pedwar o'i weithiau yng nghatalog llyfrau printiedig yr
Amgueddfa Brydeinig
. Yn eu plith ceir
The Book of the Bastiles, or the History of the working of the Poor Law
(
1841
), llyfr a gondemniai'r tlotai, a
Don Juan Junior; a poem by Byron's Ghost
,
1839
.
Pr.
Martha Maria
Caulfield
(a fu f.
1 Ebr. 1875
) yn
Ninbych y Pysgod
5 Meh. 1833
. Bu f.
17 Ionawr 1854
, ac y mae cofeb iddo yn eglwys
Llanllwchaiarn
.
Llyfryddiaeth:
-
R. Williams
,
Montgomeryshire Worthies
, ail arg.,
1894
;
-
British Museum. Catalogue of Printed
Books
, 1882
;
-
Montgomeryshire collections : relating to Montgomeryshire and its borders
, 59, tt. 82-101.
Awdur:
Elwyn Evans, M.A., Aberystwyth