BAUGH, ROBERT (1748? - 1832), gwneuthurwr mapiau, ysgythrwr, a cherddor

Enw: Robert Baugh
Dyddiad geni: 1748?
Dyddiad marw: 1832
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwneuthurwr mapiau, ysgythrwr, a cherddor
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Cerddoriaeth; Perfformio; Argraffu a Chyhoeddi; Teithio
Awdur: William Llewelyn Davies

Disgrifir ef 'o Landysilio,' eithr treuliodd flynyddoedd lawer yn Llanymynech, lle yr oedd yn glerc y plwyf. Cysylltir ei enw a map gweddol adnabyddus o Ogledd Cymru, sef un John Evans, Llwynygroes, Llanymynech, a gyhoeddwyd yn 1795, wedi ei ysgythru gan Baugh. Gwnaeth Baugh ei hunan fap o Sir Amwythig, 1809, a dyfarnwyd iddo fathodyn arian a 15 gini gan y Royal Society of Arts, Llundain, o'i blegid. Bu farw 27 Rhagfyr 1832 yn 84 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.