BASSETT, CHRISTOPHER (1753 - 1784), offeiriad Methodistaidd

Enw: Christopher Bassett
Dyddiad geni: 1753
Dyddiad marw: 1784
Rhiant: Alice Bassett
Rhiant: Christopher Bassett
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganed yn Aberddawen, plwyf Penmarc, mab Christopher ac Alice Bassett, ill dau yn ddilynwyr Howel Harris. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bontfaen a Choleg Iesu Rhydychen, lle y graddiodd yn B.A. yn 1772 (M.A. yn 1775). Ordeiniwyd ef gan esgob Llundain a bu'n gurad dan yr enwog William Romaine yn S. Anne, Blackfriars; dewiswyd ef hefyd yn ddarlithydd S. Ethelburga.

Collodd ei iechyd a dychwelodd i Gymru; penodwyd ef yn gurad Sain Ffagan yn 1778, a bu'n gurad wedyn ym Mhorthceri; casglodd seiat Fethodistaidd at ei gilydd yn y ddau le. Teithiodd a phregethodd yn siroedd y Deheudir ymhlith y Methodistiaid.

Gwaethygodd ei iechyd yn 1783 ac aeth i dy ei chwaer ym Mryste i atgyfnerthu; bu farw yno o'r darfodedigaeth 8 Chwefror 1784, a dygwyd ei gorff i'w gladdu ym mynwent S. Athan. Canwyd marwnadau i'w goffadwriaeth gan John Williams, S. Athan, a William Williams, Pantycelyn. Cyhoeddodd David Jones, Langan, lyfryn ar achlysur ei farwolaeth, Llythyr oddi wrth Dafydd ab Ioan y Pererin at Ioan ab Gwilim y Prydydd … (Trefecca, 1784), yn rhoi hanes ei fywyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.