Yr oedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Hynafiaethol Cymru o'i chychwyn, yn ysgrifennydd iddi o 1854 hyd 1875 , ac yn olygydd ei chylchgrawn o bryd i bryd — cyhoeddodd ynddo gyfres faith o ysgrifau (rhestr yn Arch. Camb. , Hydref, 1887 , a hefyd yn Williams , Llyfryddiaeth Sir Ddinbych , Rhan 3). Ymneilltuodd o Ruthyn yn 1865 , ac aeth i fyw i Melksham House , Wilts , lle y bu f. ar y 9fed Awst 1887 yn 77 oed . Yr oedd yn briod, a chanddo fab a merch.
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor