BARNES, EDWARD, bardd a chyfieithydd llyfrau crefyddol yn ail hanner y 18fed ganrif

Enw: Edward Barnes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a chyfieithydd llyfrau crefyddol yn ail hanner y 18fed ganrif
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: David Myrddin Lloyd

Ganwyd yn Llanelwy, a bu'n athro ysgol yno. Yn ôl Josiah Thomas Jones yn Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru trodd yn Fethodist, a bu fyw am flynyddoedd yn Sir Drefaldwyn, a chroesawai yno bregethwyr teithiol i'w dy.

Ceir dwy garol blygain o'i waith ynghyd a cherdd yn erbyn medd-dod a cherdd yn erbyn bydol chwantau yn Cyfaill i'r Cymro, sef casgliad William Hope, Mostyn, a argraffwyd yng Nghaer yn 1765. Yn NLW MS 843B , a gopiwyd tua 1761, ceir cyfres o englynion ganddo i Dduw. Cyhoeddwyd yn 1784 ei gyfieithiad o'r Llythyr o Gyngor difrifol… gan De Courcy, yn 1785 y Myfyrdodau a Sylwadau gan Iago Herfei (sef James Hervey), ac yn 1792 ei gyfieithiad o bregeth Theophilus Priestley ar farwolaeth Selina, iarlles Huntingdon. Argraffwyd yng Nghaerlleon yn 1795 y Patrwm dewisol rannau o ganiadau y Parchedig Rees Prichard … ar ddull Geirlyfr Cymraeg a Saesneg gan Edward Barnes, Athraw Ysgol yn Caerwys. Copi o hwn yw NLW MS 1477B , ac arno mewn inc fe newidiwyd y dyddiad i 1797, a 'Caerwys' i 'Lanelwy.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.