Apwyntiwyd ef yn ysgrifennydd i esgob Tyddewi ym Mehefin 1897 ac yn gofrestrydd yr esgobaeth yn Chwefror 1899 , swydd a lanwodd hyd ei farw. Yn wleidyddol yr oedd yn Geidwadwr . Ymddiddorai ym myd natur a hynafiaethau. Cymerai ran flaenllaw mewn mudiadau lleol — milwrol, ieuenctid, etc. Crynhodd lawlyfr Saesneg , A Handbook to the Natural History of Carmarthenshire , a gyhoeddwyd yn 1905 , a hefyd Particulars relating to the endowments, etc., of livings in the diocese of S. Davids , a gyhoeddwyd yn 1907 mewn pedair cyfrol, un am bob archddiaconaeth yn yr esgobaeth. Ynghyd a Francis Green crynhodd restrau o offeiriadon sir Benfro — rhestrau a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn West Wales Historical Records . i-vi, 1912-6 . Bu farw [7] Gorffennaf 1912 .
Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth