Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BARHAM (TEULU), Trecŵn , sir Benfro . Yn Cheltenham ar 1 Gorffennaf 1754 priodwyd Dorothea , pedwaredd ferch John Vaughan o Drecŵn o'i wraig Joan Corbet , a JOSEPH FOSTER -BARHAM , mab y Cyrnol John Barham ( 1681 - 1731 ), Egham House , swydd Surrey , a Jamaica ; g. ef yn Jamaica ar 16 Rhagfyr 1729 ac etifeddodd ystadau eang y teulu yno. Cymerodd enw ei lysdad, y Doctor Henry Barham , yn 1750 , a bu f. yn 1789 .

Etifeddwyd ystad Trecŵn gan ei fab hynaf, JOSEPH FOSTER -BARHAM (g. 1 Ionawr 1759 ) yn 1803 ar ôl marw ei fodryb Martha Vaughan , yr olaf o hen deulu Trecŵn . Yn 1792 priododd Caroline Tufton (bu f. 1832 ), ail ferch Sackville Tufton , yr 8fed iarll Thanet , ac efe oedd y cyntaf o'r Barhamiaid a fu'n byw yn Nhrecŵn . Bu'n aelod seneddol dros Stockbridge am hanner can mlynedd. Ar ôl ei f. yn 1832 , dilynwyd ef gan ei fab hynaf, JOHN FOSTER BARHAM , aelod seneddol dros Stockbridge ac, yn ddiweddarach, dros Kendal . Priododd hwn yr Arglwyddes Catherine Grimstone , merch iarll Verulam , yn 1834 , a bu farw'n ddi-blant yn 1838 . Dilynwyd ef gan ei frawd (y trydydd mab), y Parch. CHARLES HENRY FOSTER BARHAM o Drecwn ( 1808 - 1878 ), aelod seneddol Appleby ( 1832 ), ynad heddwch yn sir Benfro a Westmorland , ac M.A. Rhydychen . Priododd (1), 1836 , Elizabeth Maria (bu f. 1860 ), merch William Boyd Ince o Ince yn swydd Lancaster , a (2), Ellen Catherine , merch E. T. Massey o Cottesmore , sir Benfro .

O tua 1855 ymlaen bu'r Parch. Charles Foster-Barham a'i wraig gyntaf yn gyfrifol i raddau helaeth am gynnal ysgol ar gyfer plant yr ardal. Cychwynnwyd yr ysgol dros y ffin ym mhlwyf Llanstinan , ond yn ddiweddarach fe'i symudwyd i Nantybugail . Yn 1868 sefydlwyd Ysgol Barham yn Nhrecŵn gan Henry Alexander Ince er cof am ddiddordeb ei chwaer mewn addysg leol. Bu'r Parch. Charles Foster-Barham farw'n ddi-blant yn Nhrecŵn a disgynnodd ystadau'r teulu i'w nai, FRANCIS WILLIAM ROBINS (g. yn St. John's Wood , Llundain , 1841 ), mab i'w chwaer Caroline Gertrude Foster-Barham , gwraig y Parch. Sanderson Robins (bu f. 1862 ), rheithor Shaftesbury . Cymerodd yr enw Barham ar ôl etifeddu'r ystadau a chartrefodd yn Nhrecŵn . Yr oedd yn gapten yn y Queen's 60th Rifles . Yn 1868 priododd Mary Agnes Cook ym Montreal . Bu f. 8 Rhagfyr 1926 .

Llyfryddiaeth:

  • The Pembrokeshire County Echo , 9, 16, a 23 Rhagfyr 1926 , 30 Mawrth 1933 ;
  • Western Mail , 29 Mehefin 1928 , 11 Mawrth 1937 ;
  • Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales , ii, 894;
  • Burke's Landed Gentry (1868), 53, 502-3;
  • Richard Fenton , A Historical Tour through Pembrokeshire (arg. 1af), 343;
  • Llawysgrifau'r Eglwys yng Nghymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth (‘Visitation Queries and Answers’) yn Ll.G.C.;
  • Kelly's Directory ( 1901, 1926 ).

Awdur:

Dr Bertie George Charles, Ph.D., (1908-2000), Aberystwyth