Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BARHAM , DIANA ( 1763 - 1823 ), arglwyddes, noddwraig crefydd . Unig ferch Charles Middleton , Arglwydd Barham , a Margaret ei briod, Barham Court , Kent . Priododd, yn 1780 , Syr Gerard Noel .

Yr oedd o ysbryd efengylaidd. Ymsefydlodd yng Ngŵyr , Morgannwg , yn 1813 , a chyda chymorth y Methodistiaid sefydlodd achosion crefyddol a chodi capeli iddynt yn rhannau Seisnig Gŵyr . Ni bu'r cydweithrediad rhyngddi â'r Methodistiaid yn hapus bob amser, ond cafodd gefnogaeth yr Annibynwyr hwythau.

Bu f. 12 Ebrill 1823 , yn Fairy Hill , Gŵyr . Ymhen rhai blynyddoedd ar ôl ei marw cyflwynodd ei mab Charles , Arglwydd Barham — Arglwydd Gainsborough wedyn — y capeli i ymddiriedolwyr. O'r chwe chapel a godwyd ganddi y mae dau o hyd yn perthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd , a'r lleill yn eiddo i'r Annibynwyr .

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography , xxxvii, 341;
  • Burke's … Peerage, Baronetage, and Knightage ( 1949 ), 803;
  • The Cambrian , 19 Ebrill 1823 ;
  • W. Williams , A memoir of the life and labours of the Rev. William Griffiths, Burry Green, Gower , 1863 ;
  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , ii, 435-9.
  • Alicia Gower-Jones, gol., Gower memories of William Griffiths , Llandysul, 1957, (hunangofiant William Griffiths , 1788 - 1861 ) .

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe