AUGUSTUS, WILLIAM ('Wil Awst'), proffwyd tywydd yn y cyfnod cyn-wyddonol a chyfieithydd

Enw: William Augustus
Ffugenw: Wil Awst
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: proffwyd tywydd yn y cyfnod cyn-wyddonol a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Natur ac Amaethyddiaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Emrys George Bowen

Yr oedd yn byw yng Nghil-y-cwm, gerllaw Llanymddyfri, tua diwedd y 18fed ganrif. Ni wyddys mo flynyddoedd ei fywyd yn sicr, ond yr oedd yn fyw yn 1794 pan argraffodd John Ross, Caerfyrddin, ei Husbandman's Perpetual Prognostication - casgliad rhyfedd o wybodaeth werin am y tywydd wedi ei ysgrifennu mewn rhan yn Gymraeg ac mewn rhan yn Saesneg. Am ffynhonnell yr adran Gymraeg, sydd gan mwyaf yn gyfieithiad o destun Saesneg adnabyddus, dywed Augustus, ar ei diwedd, fel hyn: 'Rhai o'r pethau hyn a argraphwyd yn Saesneg ac a gyhoeddwyd yn gyffredinol mewn llyfr a elwir “ A Prognostication for ever made by Erra Pater ”.'

Ar wahân i hyn ni wyddys ond ychydig am Augustus ar wahân i'r gair da a gâi yn ei ardal oherwydd ei allu i broffwydo (o fewn yr awr, meddir) ddyfodiad glaw, rhew, stormydd o wynt, neu daranau. Ymddengys fel petai Augustus yn llinach yr hen astudwyr tywydd yng Ngroeg; fel y dengys teitl ei waith, ysgrifennai ef (fel y gwnaent hwy) yn bennaf ar gyfer yr amaethwr, sef gwŷr yn perthyn, o'r oesoedd cyntefig, i'r dosbarth y byddai a fynno fwyaf i'w wneud a mater proffwydo tywydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.