Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



AUBREY , WILLIAM ( 1759 - 1827 ), peiriannydd, Tredegar; arolygydd peiriannau ager yng ngweithiau haearn Tredegar . Yr oedd yn un o'r peirianwyr hynaf a mwyaf medrus yng Ngwent a Morgannwg , a'i waith arbennig oedd cynllunio a gosod i fyny bob math o beiriant a weithid gan dân a dwfr . Bu'n un o gynorthwywyr Watkin George , y peiriannydd yng Nghyfarthfa , lle y cynlluniwyd ac yr adeiladwyd y peiriant dwfr mwyaf yn Ewrob y pryd hynny. Bu am dros ddeugain mlynedd yng ngwasanaeth Samuel Homfray , yr haearnydd , mewn mwy nag un o'i weithiau. Perchid ef yn fawr am ei gywirdeb a'i gymeriad personol yn ogystal â'i allu a'i fedr fel crefftwr . Yr oedd yn un o ddinasyddion amlycaf ei dref. Bu f. 22 Gorffennaf 1827 .

Llyfryddiaeth:

  • Seren Gomer , 1827 , 384.

Awdur:

Y Parch. John Roberts Evans, Caerdydd