AUBREY, THOMAS (1808 - 1867), gweinidog Wesleaidd

Enw: Thomas Aubrey
Dyddiad geni: 1808
Dyddiad marw: 1867
Priod: Elizabeth Aubrey (née Williams)
Rhiant: Anne Aubrey
Rhiant: Thomas Aubrey
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Albert Hughes Williams

Ganwyd 13 Mai 1808 yng Nghefncoedcymer, plentyn hynaf Thomas ac Anne Aubrey. Dechreuodd bregethu cyn bod yn 15 oed, a derbyniwyd ef i'r weinidogaeth Wesleaidd yn 1826. Teithiodd ar nifer o gylchdeithiau yng Ngogledd Cymru ac yn Llundain, Lerpwl, a Merthyr Tydfil rhwng 1826 a 1865, pan aeth yn uwchrif. Bu'n gadeirydd talaith Gogledd Cymru o 1854 i 1865. Priododd Elizabeth, merch Robert a Gwen Williams, Rhuthun, 6 Ebrill 1831. Bu farw yn Rhyl, 16 Tachwedd 1867.

Y mae Thomas Aubrey yn un o wŷr amlycaf Wesleaeth Gymreig. Pregethwr huawdl a llwyddiannus ydoedd yn anad dim, eithr nid oedd ei lwyddiant fel gweinyddwr lawer llai, er lleied ei ddiddordeb mewn materion gweinyddol cylchdeithio cyn 1854. Bu'n gyfrwng i drefnu cyfarfodydd o swyddogion cylchdeithiau cyfagos i drafod cyflwr ysbrydol yr eglwysi; i sefydlu cyfarfodydd diwygiadol a thrysorfa cenhadaeth gartref y dalaith ogleddol; i hyrwyddo adeiladu tai cylchdeithiol; ac, yn bennaf oll, i greu trysorfa capelau talaith Gogledd Cymru - y weithred weinyddol fwyaf, yn ddiau, yn hanes yr enwad yn y 19eg ganrif. Bu'n amlwg yn amddiffyn trefn ac athrawiaethau Wesleaeth Gymreig; yr oedd yn Brotestant selog, er na chymerodd ran amlwg mewn gwleidyddiaeth; ac yr oedd yn' un o'r darlithwyr poblogaidd cyntaf yng Nghymru. Ni fu'n rhydd oddi wrth feirniadaeth rhai o'i aelodau a'i gydweinidogion oherwydd ei wendidau fel bugail a gohebydd, ei ddulliau awtocrataidd, a'i ddifaterwch ynghylch prydlondeb. Ond saif yn uchel yn rheng flaenaf gweinidogion yr enwad yn rhinwedd ei ddoniau mawrion fel pregethwr a gweinyddwr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.