ASSER
(bu f.
909
),
esgob ac ysgolhaig
.
Ni wyddys fawr ddim o'i hanes heblaw a ddywed amdano'i hun yn ei lyfr ar fywyd y
brenin
Alfred
. Yr oedd yn aelod o glas
Tyddewi
, lle'i meithrinwyd a'i addysgu, gan ei fod yn perthyn i'r
esgob
Nobis
(bu f.
873
). Yn ei dro daeth
Asser
yntau'n
esgob Tyddewi
ac ennill mawr glod am ei ddysg,
ac nid o fewn i ffiniau
Cymru
'n unig. Gan hynny, yn
884
, neu tua'r adeg honno, fe'i derbyniwyd i wasanaeth
Alfred
oblegid sêl y
brenin
hwnnw dros ei addysgu ei hun a'i ddeiliaid. Nid hawdd oedd rhyddhau
Asser
o'i ddyletswyddau esgobol, ond ar ôl ysbaid a achoswyd yn rhannol gan ei hir afiechyd yng
Nghaerwent
ar ei ffordd adref, cytunodd i rannu ei flwyddyn rhwng y llys a
Thyddewi
. Bu cyflwr gwleidyddol
Cymru
yn un rheswm dros iddo gytuno â'r drefn hon. Yr oedd yr esgobaeth yn agored iawn i ymosodiadau'r
tywysog
lleol, sef
Hyfaidd
,
brenin Dyfed
(bu f.
892
), a gobeithid rhoi pen ar hyn gan gyfeillgarwch yr
esgob
â theyrn grymus
Wessex
, gwr a oedd yn frenin ar
Hyfaidd
yntau. Cafodd
Alfred
ei
athro
newydd yn gwbl angenrheidiol iddo, a phentyrrodd ffafrau arno, gan roi arno yn y diwedd ofal
esgobaeth Sherborne
, a gynhwysai
Ddyfnaint
a
Chernyw
. Adroddir hyn oll yn y llyfr ar
Alfred
. Nid oes i'w ychwanegu ddim gwybyddus heblaw ei ddyrchafu'n ddiweddarach yn
esgob Sherborne
, ac iddo f. yn
909
.
Cymysgfa ryfedd yw'r llyfr crybwylledig o gronicl a chofnodion personol wedi ei sgrifennu yn
Lladin
rhetoregol ac anystwyth y cyfnod. Amlwg yw nas gorffennwyd erioed; y dyddiad olaf a grybwyllir yw
893
, ond ni pharheir y cronicl wedi
887
. Gwneir astudiaeth ohono'n anodd gan i'r unig hen lawysgrif gael ei llosgi yn
1731
, a chan fewnosodiadau'r golygyddion. Ymhlith y rhain y mae'r darn drwg ei glod am ddadleuon academaidd yn
Rhydychen
a wewyd iddo gan
Camden
i brofi hynafiaeth y brifysgol honno. Ymdrinir â'r holl bynciau sy'n codi, a sefydlir testun, gan
W. H.
Stevenson
yn ei argraffiad safonol (
Rhydychen
,
1904
).
Llyfryddiaeth:
- J. E. Lloyd
A History of Wales
, 226-8;
- F. M. Stenton,
Anglo-Saxon England
, 1943, 1947
, 269, 433;
- J. W. Adamson,The Illiterate Anglo-Saxon
, Caergrawnt,
1946.
Awdur:
Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor
Awdur:
David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban