ASAPH (c. 600), sefydlydd tybiedig esgobaeth Llanelwy

Enw: Asaph
Rhiant: Sawyl Benuchel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sefydlydd tybiedig esgobaeth Llanelwy
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

Ni wyddys ddim amdano ar wahân i'r hyn a ddywed traddodiad. Yn ôl ffurf hynaf ' Bonedd y Saint ' mab Sawyl (Samuel) Benuchel ydoedd ac ŵyr Pabo Post Prydain. (Efallai mai mwythair yw 'Penuchel' am 'Penisel,' y gair a geir mewn hanes cynharach.)

Ceid rhannau o 'fuchedd' iddo yn ' Llyfr Coch Llanelwy,' a barnu oddi wrth y copïau sydd ar gael o'r llyfr coll hwnnw; ar wahân i hyn yr unig hanes am Asaph ydyw hwnnw sydd ym 'muchedd' S. Kentigern, Glasgow, a ysgrifennwyd tua 1180 gan Jocelin, mynach yn abaty Furness. Rhydd Jocelin yr anrhydedd i Gyndeyrn o fod yn sefydlydd cyntaf y sefydliad mynachaidd ar lannau Elwy, eithr ychwanega, gan ddefnyddio 'buchedd' sant ieuengach, fod ymhlith y disgyblion mwyaf hoffus ganddo un o'r enw Asaph, o deulu uchelwyr, ac iddo ei ddewis ef, o flaen pawb arall, i'w ddilyn ef ei hun, ac i Asaph gael ei gysegru'n esgob yn ei le ef pan ddychwelodd ef i Ystrad Clud. Pa beth bynnag sydd wrth wraidd y stori hon, rhaid nodi nad oes yr un cofnod lleol o gysylltiad Cyndeyrn â'r cylch eithr ceir enw Asaph ynghadw yn Llanasa, Pantasa, a Ffynnon Asa - y tri hyn yng ngogledd Fflint.

Y cyntaf o Fai ydyw dydd ei ŵyl; ceir yn 'Breviary Aberdeen' wasanaeth iddo. Ni wyddys ddim o hanes ei esgobaeth am ganrifoedd lawer ar ei ôl ef; daw i'r golwg eilwaith pan etholwyd Gilbert yn esgob yn 1143. Llanelwy ydyw enw'r Cymry am yr esgobaeth o'r cychwyn - a dyna sut y'i gelwir yn 'Lanelvensis' yn Lladin; tua'r flwyddyn 1150 dechreuodd tramorwyr ddefnyddio'r ffurf S. Asaph a oedd yn haws iddynt hwy ei ynganu.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.