ARNOLD (TEULU), Llanthony a Llanfihangel Crucorney, sir Fynwy

Sefydlydd ffortiwn y teulu hwn, a oedd yn hen deulu yn sir Fynwy, yn disgyn o Gwilym ap Meurig ac wedi mabwysiadu'r cyfenw Arnold yn gynnar yn ei hanes, oedd Syr NICHOLAS ARNOLD (1507? - 1580), boneddwr a dderbyniai bensiwn gan Harri VIII ac a gafodd abaty Llanthony pan oedd yn cynrychioli Thomas Cromwell yn yr ardal adeg Diddymiad y Mynachdai (a hefyd ystad yn sir Gaerloyw yr oedd yn trigo ynddi); daeth yn Brotestant pybyr a gwnaethpwyd ef yn brif ustus Iwerddon (1564). Ceir ei hanes ef yn D.N.B. Supplement i, 75.

JOHN ARNOLD

Mab Syr Nicholas Arnold (gelwir ef yn Thomas ar gam yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1942, t. 21), a etifeddodd ystad Llanthony, ond aeth yr ystad yn sir Gaerloyw i blant priodas arall. Yn ddiweddarach prydleswyd Llanthony gan John Arnold i'r Hoptoniaid a phrynodd yntau faenor Llanfihangel Crucorney a byw yno. Bu'n ddiwyd yn Senedd 1597, gan gynrychioli sir Fynwy; yr oedd ganddo gyfran fechan ym mradwriaeth iarll Essex.

NICHOLAS ARNOLD (bu farw 1665)

Mab hynaf John Arnold. Bu'n aelod dros y sir yn Senedd 1626 ac yn siryf yn 1633, ond yr oedd yn fwy o fagwr anifeiliaid nag o wleidyddwr, ac nid oes dystiolaeth o'r hyn a ddywedwyd yn ddiweddarach iddo ymladd o blaid Oliver Cromwell a chael ei wobrwyo â thiroedd. (Hist. MSS. Comm., Dartmouth, iii, 282).

JOHN ARNOLD (ganwyd 1634), gwleidyddwr Whig

Mab hynaf Nicholas Arnold. Bu'n siryf sir Fynwy yn 1669. Efe a arweiniai blaid y Whigiaid a'r gor-Brotestaniaid yn sir Fynwy yn erbyn Torïaeth a Phrotestaniaeth gymedrol yr ardalydd Worcester (dug cyntaf Beaufort yn ddiweddarach); yn rhinwedd ei swydd fel pennaeth Llys y Goror ('President of Wales') parodd yr ardalydd i Arnold golli ei swydd fel ynad heddwch yn gynnar yn 1678. Yn ddial am hyn gwrthwynebodd Arnold ymgais Worcester i gau i mewn fforest Wentwood; anfonodd at Lefarydd Tŷ'r Cyffredin lythyr yn lladd ar weithrediadau rhai pabyddion o'r cylch a gofynnwyd cwestiynau iddo ar hyn wrth far Tŷ'r Cyffredin a diolchwyd iddo (27 Mawrth 1678). Buwyd yn archwilio'r cyhuddiadau mewn pwyllgor yr oedd Syr John Trevor (1637 - 1717) yn gadeirydd iddo; gwnaeth y pwyllgor adroddiad llawn, a'r canlyniad fu chwalu cartref y Jesiwitiaid yn Cwm, Swydd Henffordd, a rhoi'r Brodyr David Lewis, Philip Evans, John Lloyd, ac eraill, i farwolaeth; cymerth Arnold ran amlwg yn y gweithrediadau hyn i gyd. Er ei fod yn Eglwyswr ac yn cydffurfio, bu'n gweithio gydag Anghydffurfwyr o'r cylch megis Samuel Jones; dywedir iddo, yn ddiweddarach, fod yng nghyswllt â Samuel Jones mewn amcanion bradwriaethus.

Ym mis Medi 1679 ceisiodd, eithr yn ofer, ennill sedd yn y Senedd dros fwrdais Trefynwy yn erbyn aer Worcester; llwyddodd, fodd bynnag, 26 Tachwedd 1680, gyda'i betisiwn a geisiai beri i'r aelod a ddewiswyd golli ei sedd; hawliai Arnold ddarfod dewis Worcester oherwydd i rai o'r tu allan i Drefynwy gael eu difreinio; pan aeth efe ei hunan i Westminster bu'n ymosod yn ddi-baid yn y Senedd ar yr aelod y cymerodd ef ei le, gan ei alw yn ormeswr lleol ac yn ŵr a oedd o blaid pabyddion. Yn y cyfamser, sef yn Ebrill 1680, bu i gynllwyn, honedig, gan babyddion i geisio ei ladd - credir erbyn hyn na fu'r fath gynllwyn o gwbl, serch i John Giles, Brynbuga, ddioddef o'i blegid - beri i Arnold ddyfod yn arwr poblogaidd ochr yn ochr â Shaftesbury, Oates, Bedloe, ac eraill o aelodau Plaid y Wlad, a daeth yn amlwg ymysg y rheini a oedd yn aelodau o barti'r 'exclusionists' yn ei ardal ei hun ac yn Westminster, ac fe'i hailddewiswyd yn aelod dros Drefynwy yn 1681. Pan oedd y Torïaid yn gryfion yn 1682 cyfrifid Arnold yn ddyn i'w wylied, ac ym mis Tachwedd 1683 llwyddodd dug Beaufort i gael dyfarniad yn ei erbyn yn Llys Mainc y Brenin oblegid 'scandalum magnatum'; ceisiodd yntau, ond yn ofer, ei achub ei hun rhag y dyfarniad trwy wneud achwyniadau eraill ar babyddion.

Am na thalodd £10,000 o iawn bu yng ngharchar am flynyddoedd lawer gan golli ei sedd fel ynad heddwch yn Westminster a Middlesex. Cafodd ei sedd yn ôl fel aelod seneddol Trefynwy yn Senedd y Confensiwn (Ionawr 1689), ond dewisodd gynrychioli Southwark pan etholwyd ef dros Southwark a Threfynwy y mis canlynol. Methodd â chael diddymu dyfarniad y llys yn ei erbyn; llwyddodd i gael ei ailosod ar y fainc yn Westminster a Middlesex (3 Ebrill 1690), a pharhaodd i fod mewn cyswllt ag Oates a syniadau gwleidyddol eithafol hwnnw. Er iddo gynrychioli Trefynwy unwaith yn rhagor - o 1695 hyd 1698 - ni fu o ddylanwad mwy. Ar ôl ei farw ef gwerthwyd Llanthony a Llanfihangel gan ei aer, NICHOLAS ARNOLD (1669 -?), i Harleiaid Brampton Bryan yn 1727.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.