Collodd y rhan fwyaf o'i arian ac yn 1822 dechreuodd ysgrifennu i'r Sporting Magazine dan yr enw ‘ Nimrod .’ Tynnodd ei ysgrifau sylw ar unwaith a chynyddodd cylchrediad y Sporting Magazine , ond yr oedd ei ofynwyr yn pwyso arno a bu rhaid i Apperley fyned i fyw i Calais yn 1830 . Dychwelodd i Loegr yn 1842 , a bu f. yn Upper Belgrave Place , Pimlico , 19 Mai 1843 . Bu ei ail fab, Major WILLIAM WYNNE APPERLEY , swyddog ym myddin India , f. ym Morben , ger Machynlleth , 25 Ebrill 1872 .
Ymhlith y llyfrau a ysgrifennodd Apperley y mae The Chace, the Road and the Turf ( 1837 ), Memoirs of the Life of John Mytton ( 1837 ), The Life of a Sportsman ( 1842 ), a Hunting Reminiscences ( 1843 ). Yn ystod yr amser y bu yn Ffrainc bu yn aelod o staff y Sporting Review , ac, ar gais J. G. Lockhart , ysgrifennodd i'r Quarterly Review ar ‘ Melton Mowbray ,’ ‘ The Road ,’ a ‘ The Turf .’ Yn ei hunangofiant ceir darlun diddorol o fywyd y dosbarth tiriog yng Nghymru tan ddiwedd y 18fed g. a dechrau'r 19eg.
Edward Morgan Humphreys, O.B.E., M.A., (1882-1955), Caernarfon