ANWYL, LEWIS (1705? - 1776), offeiriad ac awdur

Enw: Lewis Anwyl
Dyddiad geni: 1705?
Dyddiad marw: 1776
Priod: Gwen Anwyl (née Griffith)
Rhiant: William Anwyl
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yn Llandecwyn, Sir Feirionnydd, mab William Anwyl, rheithor Llanfrothen (1709-13), a Ffestiniog a Maentwrog (1713-29). Aeth i Goleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, yn 1723, a graddio yn 1726. Cafodd fywoliaeth Ysbyty Ifan yn 1740, ac Abergele yn 1742. Cyhoeddodd o leiaf bedwar o lyfrau: (a) Y Nefawl Ganllaw, Neu'r Union Ffordd i Fynwes Abraham. … Argraphwyd yn y Mwythig, gan R. Lathrop, Tros Dafydd Jones [ 1740 ]; (b) Myfyrdodau Wythnosawl…; (c) Cyngor yr Athraw i Rieni …; y mae (b) a (c) yng nghyswllt ag (a); (d) Cristianowgrwydd Catholig, neu Draethawd bŷrr tuagat Leihau gwrth ddadlau Ymhlith Cristianogion … yn enwedig ymhlith y plwyfolion hynny, lle y mae'r Methodistiaid neu Hoffwyr Crefydd y Goleuni newydd yn cael cynhwysiad…. Wedi ei gyfieithu o'r ail Argraphiad.

Ceir yn y Llyfrgell Genedlaethol lawysgrifau tri chyfieithiad arall gan Lewis Anwyl : (e) ' Addysg y Cristion … Gwedi eu Cyfieithu or Saesoneg gan Lewis Anwyl, Vicar Abergele,' y rhagair yn cael ei ddyddio Awst 26, 1766 - y mae hefyd gyda hwn ' Cynnygiadau; Am Brintio trwy Gynnorthwy, Y Cristion wedi ei Addysgu '; (f) ' Traethawd Ystoriawl o'r Holl Fibl … ', rhagair hwn wedi ei ddyddio yn Abergele Ebrill 15, 1767, a'r gwaith yn gyfieithiad o lyfr J. Hammond, Historical Narrative of the Whole Bible; a (g) cyfieithiad o ragarweiniad John Mabletoft i'w lyfr, The Principles and the Duties of the Christian Religion. Bu farw yn Abergele a'i gladdu yn yr eglwys yno 27 Chwefror 1776.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.