ANWYL, EDWARD (1786 - 1857), gweinidog Wesleaidd

Enw: Edward Anwyl
Dyddiad geni: 1786
Dyddiad marw: 1857
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 1786 (bedyddiwyd 12 Ebrill) yn Tyn-y-llan, Llanegryn. Addysgwyd ef yn hen ysgol ramadeg Llanegryn, ond tua 1798 gadawodd yr ysgol i weithio ar y tir. Yn 1806 ymunodd â'r Wesleaid (a oedd yn cenhadu yn Llanegryn o 1804 ymlaen); yn 1808 dechreuodd bregethu, ac urddwyd ef yn weinidog. O hynny hyd ei ymddeoliad yn 1854, gwasanaethodd un ar hugain o gylchdeithiau, a bu'n gadeirydd ei dalaith am gyfnod o un mlynedd ar bymtheg. Ystyrid ef yn un o weinidogion dewraf a mwyaf llwyddiannus ei gyfundeb. Bu farw yn Nhreffynnon 23 Ionawr 1857.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.