ANTHONY, HENRY MARK (1817 - 1886), arlunydd

Enw: Henry Mark Anthony
Dyddiad geni: 1817
Dyddiad marw: 1886
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Mary Gwyneth Lewis

Ganwyd ym Manceinion, o dras Cymreig. Symudodd ei deulu i'r Bontfaen, Sir Forgannwg, ac yno yn 16 oed aeth yn brentis at feddyg. Daeth yn berchen ar foddion annibynnol a rhoddodd y gorau i alwedigaeth meddyg, gan dreulio tua deng mlynedd ar y Cyfandir yn astudio celf; yn ystod y blynyddoedd hyn daeth dan ddylanwad Corot a Jules Dupré. Bu 129 o'i ddarluniau mewn arddangosfeydd rhwng 1837 a 1884 - yn eu plith ' A view on the Rhaidha [sic] Glamorganshire ' yn y Royal Academy yn 1837. Ceir peth o'i waith yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru -e.e. golygfa o abaty Tintern. Yn 1858 aeth i fyw i Hampstead, lle y bu farw 2 Rhagfyr 1886.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.