ANTHONY, GRIFFITH (1846 - 1897), cerddor

Enw: Griffith Anthony
Dyddiad geni: 1846
Dyddiad marw: 1897
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Symudodd y teulu i Gwmbwrla ger Abertawe, a dechreuodd y mab weithio yn ieuanc yn y gwaith haearn. Ymgymerodd ag astudio cerddoriaeth, ac enillodd y radd o A.C. o Goleg y Tonic Solffa. Sefydlodd ddosbarthiadau i ddysgu elfennau cerddoriaeth yn y gwahanol eglwysi, a mynychid hwynt gan lu mawr o ddisgyblion. Cyfansoddodd anthemau yn dwyn y teitlau ' Ceisiwch yr Arglwydd,' ' Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn,' ' O angau, pa le mae dy golyn? ', ' Cenwch yn llafar,' a ' Y dwfr glân,' ynghyd â thonau cynulleidfaol a thonau plant. Bu farw 13 Mehefin 1897, a chladdwyd ef ym mynwent Aberafan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.