ANIAN II (bu farw 1293), esgob Llanelwy

Enw: Anian
Dyddiad marw: 1293
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llanelwy
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

Nid ar unwaith y dilynwyd Anian I gan Anian II, oblegid cysegrwyd un John, gwr na wyddys ddim amdano, yn 1267. Erbyn 5 Ionawr 1268 yr oedd John wedi marw, ac ar 24 Medi 'r flwyddyn honno hysbyswyd fod y brenin wedi cadarnhau ethol Anian, prior cwfaint y Brodyr Duon yn Rhuddlan, yn esgob Llanelwy. Cysegrwyd yr esgob newydd yn Southwark, 21 Hydref, gan yr archesgob Boniface a Walter, esgob Exeter. Dywed cronicl Cymraeg cyfoes, sef Peniarth MS 20 , y gelwid 'Eynnon' wrth yr enw 'y brawd du o Nannau'; cadarnheir y cysylltiad hwn â'r lle hysbys hwnnw ym Meirionnydd gan y ffaith fod Adam o Nannau, aelod o urdd S. Dominig, yn gyfaill agos iddo ac yn ysgutor ei ewyllys. Gall y disgrifiad 'Schonaw' a ddefnyddir amdano gan Godwin ac ysgrifenwyr diweddarach fod yn llygriad o'r enw Nannau, er bod rhai wedi ymdrechu - a hynny o ddifrif - cysylltu'r gair 'Schonaw' â rhywle yng nghymdogaeth Rotterdam. Nid oes dim a brawf fod Anian yn fab i Ynyr Nannau (fl. 1280) ac y mae'n annhebyg iawn iddo erioed fod yn gyffeswr i Edward I.

Barn cronicl Peniarth, a grybwyllwyd eisoes, ydyw mai Anian oedd yr ymladdwr gorau a chryfaf erioed dros iawnderau ei esgobaeth - barn a ategir gan bopeth a ddigwyddodd yn ystod yr amser y bu'n esgob. Pan ddyrchafwyd ef yn esgob yr oedd yr esgobaeth, oblegid cyfamod Trefaldwyn, yn gwbl o dan reolaeth Llywelyn ap Gruffydd. Ar y cyntaf yr oedd y tywysog a'r esgob ar delerau da. Ar 1 Mai 1269 cytunasant â'i gilydd yn yr Wyddgrug ar fater cynnal hen hawliau'r esgobaeth yn y Berfeddwlad. Yr oedd Anian yn cymryd rhan yn y cytundeb rhwng Llywelyn a David y daethpwyd iddo yn yr un flwyddyn yn Aberriw a hefyd yn y cyfamod rhwng Llywelyn a Rhodri a wnaethpwyd 12 Ebrill 1272 yng Nghaernarfon. Ar 30 Hydref 1272 ceir ef yn gennad Llywelyn at Harri III, a oedd bron ar ben ei yrfa, a chanmolir ef gan y brenin am iddo wneud ei waith mor dda. Ond yr oedd gelyniaeth gudd Llywelyn tuag at y brenin newydd yn peri newid yn Anian hefyd. Yn niwedd 1273 ysgrifennodd at Gregory X gan wneud haeriadau yn erbyn Llywelyn; gwadwyd y rhai hyn yn groyw ar 7 Mawrth 1274 mewn llythyr a anfonwyd gan abadau Sistersaidd Cymru a oedd wedi ymgynnull yn abaty Ystrad Fflur. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, sef 19 Hydref, paratowyd adroddiad llawn o'r pethau yr oedd anghydfod o'u plegid rhwng Llywelyn a'i esgob; gwnaethpwyd hyn, ar gais Anian, gan holl glerigwyr yr esgob a oedd wedi cyfarfod ynghyd. Parhaodd yr anghydfod yn ystod y flwyddyn 1275; ym mis Mai ysgrifennodd y tywysog yn llawn at yr archesgob Kilwardby, gan achwyn ar yr ymosodiadau arno ac addo derbyn unrhyw ddyfarniad a fyddai'n rhesymol. Pan welwyd fod rhyfel ar dorri allan, troes Anian at y brenin; cafodd ganddo, 8 Tachwedd, gydnabod hen hawliau'r esgobaeth, a'r un peth eilwaith 20 Ionawr 1276. Yr oedd yn bresennol yng nghyfarfod cyngor y brenin yn Westminster a farnodd, 12 Tachwedd, fod Llywelyn i'w gyfrif yn wrthryfelwr, a phan ddychwelodd i Lanelwy cyhoeddodd ef a'i gabidwl restr fanwl o'u hachwyniadau yn ei erbyn. Yn y brwydro a ddilynodd yr oedd Anian ar ochr y brenin, a cheir ei enw yng nghyfamod Conwy (9 Tachwedd 1277) ymhlith y cynghorwyr brenhinol a oedd i ddwyn y tywysog gerbron y brenin yn Rhuddlan.

Un o effeithiau'r cyfamod hwn oedd symud bron y cwbl o esgobaeth Anian o awdurdod Llywelyn i eiddo'r Goron. Ag Edward yr oedd iddo bellach ddelio; am beth amser yr oedd eu cysylltiadau'n gyfeillgar. Bu'n gweithredu fel un o ustusiaid y brenin yng Nghroesoswallt, 27 Tachwedd 1277, a thua'r un adeg derbyniodd rodd o dir âr gwerth £20 y flwyddyn yn ardal Llanelwy, hwn i'w rannu yn ddau hanner rhyngddo ef a'r cabidwl, yn iawn-dâl, y mae'n fwy na thebyg, am golledion a gafwyd yn ystod y rhyfel. Yn haf 1281 ymunodd yr esgob â'r brenin i anfon petisiwn at y pab i erfyn caniatâd i symud sedd yr esgob o unigrwydd gwledig Llanelwy i Ruddlan, amddiffynfa frenhinol newydd - ond nid aethpwyd â'r peth ymhellach. Eithr ni pharhaodd y cyd-ddealltwriaeth yn hir. Pan dorrodd y rhyfel allan yn 1282 bu ymladd rhwng Saeson a Chymry yn ardal Rhuddlan, gan gynnwys Llanelwy, a llosgwyd yr eglwys gadeiriol. Ffromodd Anian yn aruthr; aeth ymaith o'i esgobaeth heb roddi dim ychwaneg o gymorth i'r ymladd; efe'n unig un o esgobion talaith Caergaint nid ymunodd i esgymuno'r gwrthryfelwyr Cymreig. Nid hir y bu Edward cyn dial; gorchmynnodd gymryd ei feddiannau oddi arno, a hyd yn oed ar ôl cwymp Llywelyn ni chaniataodd iddo ddychwelyd i'w esgobaeth.

Parhaodd y rhwyg am fwy na dwy flynedd; o'r diwedd llwyddodd ymdrechion yr archesgob Peckham i gael heddwch. Yn haf 1284 cydsyniodd Anian i dalu pum can marc er mwyn ennill ewyllys da'r brenin; bu iddo fodloni'r brenin ymhellach trwy beidio mwyach wrthwynebu trosglwyddo abaty Conwy i'w chartref newydd ym Maenan. Rhoes Edward iddo yntau, yn gyfnewid, yr hawl i ddewis offeiriaid Rhuddlan.

Yn y cyfamser buasai Anian mewn llawer anghydfod â gwrthwynebwyr llai pwysig na'r brenin. O 1269 hyd 1272 bu'n cynorthwyo John Fitz Alan yn ei gyngaws yn erbyn abaty Amwythig ynglyn â hawliau awdurdod ar eglwys Croesoswallt. Yn 1279 bu'n anghydweld â phrior Chirbury, ac yn 1274 ag abaty Glyn y Groes ynglyn â mater ficeriaethau yn yr eglwysi a ddaliai'r abaty yn y cylch. Helynt fwy pwysig oedd hwnnw rhwng Anian ac esgobaeth Henffordd ynghylch awdurdod esgobol yng nghymdogaeth Gorddwr ar ochr dde'r Hafren o Drefaldwyn i Alberbury. Fe'i teimlai Anian ei hun yn fwy abl i hawlio o achos i Ruffydd ap Gwenwynwyn lwyddo i ychwanegu at ei dywysogaeth ei hun y rhan hon o dde Powys. Ni bu ei hadennill gan Peter Corbet yn 1276 beri i Anian ddigalonni; bu'n ddyfal gyda'i gais am flynyddoedd nes o'r diwedd i'r esgob Swinfield ennill y dydd yn 1288.

Bu Anian farw 5 Chwefror 1293. Dengys ei ewyllys a wnaethpwyd yn 1288 yn Chartham, ar bwys Caergaint, fod ganddo lawer o eiddo personol. I achosion ac amcanion crefyddol yn ei esgobaeth, gan mwyaf, y cymynroddodd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.