ANIAN I (bu farw 1266), esgob Llanelwy

Enw: Anian
Dyddiad marw: 1266
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llanelwy
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

Gwnaethpwyd ef yn esgob ar ôl marw Hywel ab Ednyfed yn 1247. Yr oedd y Berfeddwlad ar y pryd o dan ofal Lloegr, a chydnabu Einion ac Anian a'r cabidwl ar 15 Medi 1249 hawl y brenin i awdurdodi dewis esgob a chadarnhau'r dewisiad, yn gymwys fel pe bai'n esgobaeth yn Lloegr. Erbyn y 27ain o'r mis yr oedd yr esgob dewisedig wedi talu gwrogaeth i'r brenin ac, ar ei orchymyn, wedi derbyn iddo'i hun holl diroedd yr esgobaeth. Ymhen llai na deufis yr oedd wedi cael ei gysegru gan Walter, esgob Caerwrangon, Richard, esgob Bangor, a Richard, esgob Meath; yn ôl cronicl Wigmore (Rylands Library MS. 1090) yn Llanllieni y bu'r cysegru. Ar 10 Gorffennaf 1250 rhoes Anian addewid pardwn i rai edifeiriol a ymwelai ag allor S. Mair a S. Edmwnd, allor a gysegrasai ef yng nghapel Bruera a ddibynnai ar eglwys S. Oswallt, Caer. Yn 1252 cawn ef, ar wŷs y brenin, yn sefydlu clerigwr i gyfran o fywoliaeth Rhuddlan; yn 1254 fe'i ceir yn gweithredu yn yr un modd, y tro hwn ar wŷs tywysog Cymru.

Pan oresgynnwyd y Berfeddwlad gan Lywelyn ap Gruffydd yn 1256 daeth safle Anian yn anodd; cafodd nawdd y brenin ar 30 Rhagfyr y flwyddyn honno ar yr amod ei fod ef a'i wŷr yn parhau'n ffyddlon i'r Goron. Apeliwyd ato yn 1258 a 1260 i sicrhau heddwch rhwng y Cymry a'r Saeson. Ond yr oedd awdurdod Llywelyn yn cryfhau'n fawr; yn 1261 ceir Anian yn ben ar banel o ganolwyr a ddewiswyd i benderfynu rhai materion yr oedd anghaffael yn eu cylch rhwng y tywysogion a Richard, esgob Bangor (Rhyd-yr-arw, 28 a 29 Ebrill). Yr oedd Anian yn Gymro, a adnabyddid cyn ei gysegru o dan yr enw Einion ap Maredudd; erbyn hyn ymddengys ei fod yn cydnabod uchafiaeth Llywelyn yn gyfan gwbl. Adroddir iddo yn 1263 roddi hanner bywoliaeth Llanllwchhaearn i leianod Llanllugan a hanner bywoliaeth Aberriw i abaty Ystrad Marchell. Bu farw cyn 29 Medi 1266, pryd y ceir Meurig â gofal yr esgobaeth arno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.