Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ANIAN (bu f. 1306? ), esgob Bangor . Olynydd Richard (bu f. 1267 ). Cawsai y cabidwl ganiatâd i ethol ar 8 Tachwedd 1267 ; ar 12 Rhagfyr cadarnhaodd y brenin ddewisiad Anian , archddiacon Môn , ac fe'i cysegrwyd ef yng Nghaergaint cyn diwedd y flwyddyn.

Yr oedd cymod Trefaldwyn yr Hydref cynt wedi peri mai Llywelyn ap Gruffydd oedd y gwr pwysicaf mewn cylchoedd Cymreig , ac am rai blynyddoedd bu Anian ac yntau mewn cytgord clos. Bu'n gymedrolwr dros y tywysog o dan y cytundeb a wnaethpwyd ag iarll Gloucester yng Nghantref Selyf ym Mrycheiniog 27 Medi 1268 ; ymunodd ag esgob Llanelwy i drefnu dealltwriaeth rhwng Llywelyn a Dafydd ei frawd yn Aberriw yn 1269 . Cyfamod arall y bu iddo ran ynddo oedd hwnnw a wnaethpwyd rhwng Llywelyn a'i frawd Rhodri fis Ebrill 1272 . Ym mis Medi 1273 yr oedd gyda'r tywysog ac yn ei gyngor.

Fodd bynnag, â chymylau ystorm 1277 yn dechrau cydgrynhoi, yr oedd safle Anian yn myned yn ansicr. Yr oedd yn Gymro ac yn gyffeswr y tywysog , y mae'n wir, ond nid oedd yn barod i herio gallu'r brenin . Yn gynnar ar ôl 21 Mawrth y flwyddyn honno ffoes i Loegr gan gael noddfa yn abaty S. Alban . Ymladdai ei berthynasau ar du'r brenin , ac nid oedd y colli bywyd yn eu plith yn annerbyniol gan y tywysog . Daeth yn gyfyng ar Anian o achos colli ohono'i foddion cynhaliol arferol, ac ni bu i gymod Conwy ddwyn cyfeillgarwch y tywysog a'r esgob yn ôl am beth amser. O'r diwedd, sef ym mis Gorffennaf 1280 , ceir yr archesgob Peckham yn datgan ei lawenydd oblegid gwella hen glwyf. Eithr ni pharhaodd y cyd-ddealltwriaeth newydd yn hir; pan gododd y Cymry yn 1282 yn erbyn y brenin aeth Anian unwaith eto at blaid hwnnw; gyda llu'r brenin y cawn ef yn Rhuddlan 28 Gorffennaf y flwyddyn honno.

Pan fu f. Llywelyn daeth yn ôl, yng nghwmni'r brenin , i'w esgobaeth, a bu'n ddygn yn y gwaith o ailsefydlu pethau yn y Gogledd. Derbyniodd freiniau yn dâl am ei gymorth i'r brenin — hawliau cyfreithiol o wahanol fathau, caniatâd i wneuthur ei ewyllys, a chyfran o ddegwm y taliadau a oedd yn ddyledus i'r brenin yn Nhegeingl . Ond nid oes dim yn tystio iddo dderbyn maenorau yn rhodd am iddo fedyddio plentyn Edward I yng Nghaernarfon .

Bu'r ugain mlynedd a oedd yn weddill iddo o'i oes yn ddiddigwyddiad. Ym mis Gorffennaf 1291 cynhaliodd synod o glerigwyr ei esgobaeth yn eglwys Llanfair Garthbrannan , h.y. hen eglwys y Santes Fair , ychydig i'r gogledd o'r eglwys gadeiriol. Mynegir hyn ar ddalen wag yn llyfr gwasanaethau (sef ‘Pontifical’) Anian , cyfrol sydd yn cael ei thrysori'n fawr yn yr esgobaeth. Yn 1298 bu raid iddo achwyn, ac yntau bellach yn hen a heb fod yn gryf o gwbl, oblegid fod swyddogion y brenin yn ymyrryd â rhai o'i hawliau fel esgob . Talodd wrogaeth, 28 Ebrill 1301 , yng Nghonwy i'r Tywysog Cymru newydd, ac ni chlywir sôn amdano wedi mis Mai 1305 . Cysegrwyd ei olynydd 26 Mawrth 1307 . Yn amser Anian , sef ym mis Gorffennaf 1280 , y prynwyd at wasanaeth yr esgobaeth y tir yn Shoe Lane yn ninas Llundain yr adeiladwyd arno Bangor House , a fu'n gartref yn Llundain i'r esgobion hyd ddechrau'r 17eg g.

Llyfryddiaeth:

  • Councils and Ecclesiastical Documents relating to Great Britain and Ireland , i, 501, 517, 525-6, 580-1 584, 597;
  • Browne Willis , A survey of the cathedral church of Bangor; and the edifices belonging to it … , 1721 , 67-73, 189-99, 210-2.

Awdur:

Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor