ANDREWS, JOSHUA (c.1708 - 1793), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Joshua Andrews
Dyddiad geni: c.1708
Dyddiad marw: 1793
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Nid yw hanes ei ddechreuadau'n hysbys; ond yn 1732 neu 1733 daeth yn aelod o eglwys Miles Harri ym Mhen-y-garn. Yn 1736 aeth i Academi Bryste; yr oedd yn un o chwech o Gymry yno - un arall oedd Caleb Evans. Dychwelodd i bregethu'n gynorthwyol ym Mhen-y-garn; a thua 1740 urddwyd ef yn gydweinidog â Miles Harri, a gofal neilltuol yr achos ym Mryn Buga arno; ond nid oedd ei ddoniau'n boblogaidd. Bu'n cynorthwyo yn Llanwenarth yn 1743.

Yn 1745, sefydlwyd ef ar hen gynulleidfa enwog Olchon; ond yr oedd hefyd i fugeilio Capel-y-ffin, ugain milltir oddi wrth Olchon. Llafuriodd yn y ddau le mewn tlodi ac afiechyd mawr: 'dros fwy na hanner canrif, ymddangosai'n aml fel dyn ar farw.' Bu farw 14 Mehefin 1793 'tua 85 oed,' a chladdwyd ef yn Nhrosnant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.