ANARAWD ap RHODRI (bu farw 916), tywysog

Enw: Anarawd ap Rhodri
Dyddiad marw: 916
Plentyn: Elisedd ap Rhodri Mawr
Plentyn: Idwal Foel
Rhiant: Angharad ferch Meurig
Rhiant: Rhodri Mawr
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: John Edward Lloyd

Mab hynaf Rhodri Mawr. Pan laddwyd ei dad yn 878 gan wŷr Mercia daeth Anarawd yn bennaeth Môn a rhannau cyfagos Gwynedd. Efe, yn ddiau, oedd y gorchfygwr yn y frwydr ar lannau'r Conwy yn 881 - buddugoliaeth a gyfrifai'r Cymry yn arwydd o ddial Duw am Rodri.

Ar y cyntaf ceisiodd Anarawd ei nerthu ei hun trwy ymuno â brenhiniaeth Ddanaidd York; ond ni fu'r ymuno o fawr fudd iddo a throes yn hytrach at Alfred, brenin Wessex. Cafodd dderbyniad gwresog, gan gael anrhydedd a rhoddion; bu Alfred yn dad bedydd iddo pan gafodd fedydd esgob. Addawodd yntau ufudd-dod i Alfred, a thrwy hynny daeth yn gyfuwch ag Ethelred o Mercia. Dyna'i safle yn 893, yn ôl Asser; gyda chymorth o Loegr y llwyddodd (895) i anrheithio Ceredigion ac Ystrad Tywi, a ddelid, y mae'n fwy na thebyg, gan ei frawd Cadell. Bu farw yn 916 a dilynwyd ef gan ei fab Idwal Foel.

O Anarawd y disgynnodd tywysogion diweddarach Gwynedd, megis y disgynnodd llinach Deheubarth o'i frawd Cadell. Ni ellid ond disgwyl y byddai i wŷr Deheubarth daeru yn nes ymlaen mai Cadell oedd yr hynaf o'r ddau frawd, ond y mae'r dystiolaeth yn erbyn hyn. Cafwyd ymdriniaeth lawn ar y pwnc a gwrthateb i farn pobl y De gan Robert Vaughan, Hengwrt, yn ei lyfr British Antiquities Revived, 1662 (ail argraffiad yn 1834).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.