Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ALLGOOD teulu, o Bontypwl a Brynbuga . Cysylltir teulu o'r enw hwn am dros 150 mlynedd â'r diwydiant japanio ym Mhontypwl a Brynbuga ( Usk ). Cychwyn yr olyniaeth gyda THOMAS ALLGOOD I ( c. 1640 - 1716 ), Crynwr o swydd Northampton , a ddaeth ar wahoddiad ei gyfaill Richard Hanbury i sefydlu gwaith copperas ym Mhontypwl . Troes ei egnïon at y posibilrwydd o gynhyrchu lacar o gynyrchion eilraddol glo . Bu f. 8 Mai 1716 , ac fe'i claddwyd ym mynwent y Crynwyr ym Mhontymoel .

Ei fab, EDWARD ALLGOOD I ( 1681 - 1763 ), oedd prif oruchwyliwr John Hanbury yn y gwaith haearn, ond gwnaeth hefyd welliannau pwysig mewn japanio ; bu f. 9 Ionawr 1763 ac fe'i claddwyd ym mynwent eglwys Llanfrechfa . Cyn ei farwolaeth pasiodd y gwaith lacar i ddwylaw dau o'i feibion. Gwnaeth yr hynaf ohonynt, THOMAS ALLGOOD II (g. tua 1707 ), welliannau pellach (tua 1734 ) yn y gelfyddyd. Sefydlodd ef, gyda'i fab THOMAS ALLGOOD ( ieuengaf ) III , a'i frawd ieuengach, EDWARD ALLGOOD II ( 1712 - 1801 ), waith lacar japan ym Mrynbuga yn 1761 ; yr oedd y symudiad hwn eisoes wedi ei arfaethu ers 1755 , a throdd y mater hwn yn achos cynnen a rhwyg yn y teulu.

Yna pasiodd y gwaith lacar ym Mhontypwl i ofal THOMAS ALLGOOD IV (bedyddiwyd 15 Mai 1727 ), mab John Allgood I ac wyr Thomas Allgood I . Unodd mewn partneriaeth ariannol â John Davies a William Edwards . Eu prif arluniwr a phaentiwr ydoedd Benjamin Barker , tad Thomas Barker o Bath ; yn ystod y cyfnod hwn cododd ansawdd lacar Pontypwl i'w uchafbwynt, ac anfonodd cwmni Pontypwl her (nas derbyniwyd) i'w cystadleuwyr ym Mrynbuga . Bu f. Thomas IV 22 Tachwedd 1779 , ac fe'i claddwyd ym mynwent y Bedyddwyr ym Mhenygarn . Dilynwyd ef ym Mhontypwl gan JOHN ALLGOOD II ( fl. 1779-1790 ), a wnaeth arbrofion mewn japanio ar wydr ; tua diwedd ei gyfnod ef y torrodd ei bartner Davies ei gysylltiad â'r cwmni.

O gylch 1790 hyd 1811 yr oedd y busnes yn nwylo WILLIAM ALLGOOD I (‘ Billy Allgood ,’ ‘ Billy the Bagman ’), y ceir darlun bychan ohono yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru . Parhaodd i gadw safon uchel ei grefft drwy wasanaeth Mary ei ferch a dwy ferch o'r Midlands Anne a Hannah Walker — fel paentwyr . Y mae'n ddirgelwch o hyd pa fodd y diflannodd William I yn Llundain yn 1811 ; daeth cyfrifoldeb y gwaith, eithr ar raddau llai, ar ei weddw, MARY ALLGOOD I ( 1760 - 1822 ) gyda chynhorthwy ei merch MARY ALLGOOD II ( 1785 - 1848 ) (a grybwyllwyd eisoes), a John Hughes , nai Thomas Hughes ( 1740 - 1828 ), a ddeuai drosodd o Frynbuga . Yn y siop yn Lower Crane Street (a elwid gynt yn ‘ Japan Street ’), Pontypwl , yr oedd ar werth nid yn unig gelfi japan ond nwyddau haearn a chanhwyllau hefyd. Bu f. Mary I 21 Awst 1822 , a chyda hi daw hanes japanio ym Mhontypwl i ben, oherwydd trodd ei mab hi, WILLIAM ALLGOOD II , yn groser , ac ymfudodd i America . Priododd Mary II Thomas Jones , meddyg .

I droi at waith japan Brynbuga — sefydlwyd hwn yn 1761 gan EDWARD ALLGOOD II gyda THOMAS ALLGOOD II a'i fab, THOMAS ALLGOOD ( ieuengaf ) III ; yr oeddynt yn cynhyrchu gwaith penigamp gan ddefnyddio platiau duon a phlatiau alcam o ffwrn Caerlleon . Mae Coxe ( Monmouthshire , pennod 25) yn crybwyll iddo gyfarfod ag Edward Allgood II . Ni wyddys ddim ychwaneg am Thomas II nac am Thomas III . Bu f. Edward II yn 1801 , ac fe'i claddwyd ym mynwent eglwys yr Annibynwyr , y Twyn , Brynbuga . Yr oedd wedi trosglwyddo ei fusnes i'w nai, THOMAS HUGHES ( 1740 - 1828 ).

Gw. ymhellach Pyrke , John , a Jones , Evan ( 1790 - 1860 ) .

Llyfryddiaeth:

  • Richard Pococke , The Travels through England of Dr. Richard Pococke, successively Bishop of Meath and of Ossory during 1750, 1751, and later years , 1756 (Camden Soc., 1888 );
  • Bradney , A History of Monmouthshire , Part II;
  • D. Walkinshaw , Local register or, chronology of Pontypool and the neighbourhood from the earliest period (4th ed., 1875 );
  • The Usk gleaner and Monmouthshire record , Brynbuga;
  • Apollo the international magazine of the arts , November 1947 ;
  • N.M.W., Guide to the Collections of Pontypool and Usk Japan , 1926 ;
  • ymchwil bersonol.

Awdur:

Robert Stephen, M.A., (1878-1966), Bae Colwyn