ALLEN, JOHN ROMILLY (1847-1907), hynafiaethydd

Enw: John Romilly Allen
Dyddiad geni: 1847
Dyddiad marw: 1907
Rhiant: George Baugh Allen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awduron: John Edward Lloyd, Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llundain, 9 Mehefin 1847, o hen deulu Alleniaid Cresselly, Sir Benfro, yn ddyledus yn ddiau am ei ail enw i'r ffaith i'w daid briodi nith Syr Samuel Romilly. George Baugh Allen, Cilrhiw, gerllaw Llanbedr Efelffre, oedd ei dad, a'i fam yn ferch Roger Eaton, Parc Glas, gerllaw Crinow. Ar ôl cael addysg yn Rugby a King's College, Llundain, dewisodd y mab beidio â dilyn esiampl ei dad, a oedd yn fargyfreithiwr (o'r Inner Temple), eithr mynd yn beiriannydd sifil, a bu'n brentis yng nghyffiniau afon Merswy, yn beiriannydd mewn cysylltiad â chynlluniau rheilffyrdd Baron de Reuter yn Persia, ac yn arolygydd y gwaith o wneud dociau yn Leith ac yn Boston, swydd Lincoln.

Eithr yn gynnar iawn fe'i denwyd gan archaeoleg. Ar ôl ysgrifennu erthygl i Archæologia Cambrensis (1873) ar ' Some cairns on Barry Island,' fe ymunodd â'r ' Cambrian Archaeological Association ' pan gyfarfu'r gymdeithas yng Nghaerfyrddin yn 1875 - cychwyn cysylltiad nas torrwyd mohono hyd ei farw. Daeth yn gydolygydd Archæologia Cambrensis yn Ionawr 1888 ac yn unig olygydd yn 1891. Rhoes ei holl amser bellach i archaeoleg; fe'i hetholwyd yn F.S.A. (Scotland) yn 1883, yn ddarlithydd Rhind yn 1885, yn olygydd The Reliquary yn 1893, ac yn ddarlithydd Yates yn University College, Llundain, yn 1898. Heblaw erthyglau lawer mewn cyfnodolion hynafiaeth, fe gyhoeddodd Early Christian Symbolism in Great Britain and Ireland (1887), The Monumental History of the Early British Church (1889), The Early Christian Monuments of Scotland (1903), a Celtic Art in Pagan and Christian Times (1904).

Yn ei faes arbennig ei hun daeth Allen yn un o'r awdurdodau pennaf, a chafodd Archæologia Cambrensis fanteisio'n fawr yn ystod cyfnod ei olygyddiaeth ef ar yr astudiaeth a roes ef a Syr John Rhys i destun meini arysgrif Cymru; yng nghyfarfodydd blynyddol y gymdeithas yr oedd Allen bob amser yn siaradwr a groesewid pan fyddid yn disgrifio hynafion. Bu farw yn ddi-briod, yn Llundain, 5 Gorffennaf 1907. Gwelir ei lun yn Archæologia Cambrensis , 1908.

LANCELOT BAUGH ALLEN (1774 - 1845), cyfreithiwr

Y mae taid Allen yn haeddu sylw, am iddo fod yn warden (1805-11) ac wedyn yn feistr (1811-20) Coleg Dulwich. Ail fab oedd ef i John Bartlett Allen, Cresselly, Caeriw (gweler Fenton, Pemb., ail arg., 150); priododd Caroline Romilly, a'u hail fab oedd tad yr hynafiaethydd; ganwyd L. B. Allen ar Ddydd Calan 1774, a bu farw 28 Hydref 1845. Am ei yrfa, gweler Venn, Alumni Cantabrigienses.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.