Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ALLEN , ROBERT ( 1847 - 1927 ), gweinidog gyda'r Bedyddwyr . G. 5 Ionawr 1847 yn Llanelli , mab John Allen o Gastellnedd , a'i wraig o Gilrhedyn , Castellnewydd Emlyn , ond ym Morgannwg y'i magwyd ac y gwersyllodd. Ym Mlaenycwm y'i bedyddiwyd, yng Nghwmafon y dechreuodd bregethu , ym Mryntroedgam , 17 a 18 Hydref 1880 , yr urddwyd ef. Bu yno saith mlynedd, yna Pontrhydyfen , 1887-1890 , Capel Rhondda , 1890-2 , Calfaria , Maesteg , 1892-1908 , a Philadelphia , Cwm Ogwr , am ychydig. Bu f. 13 Mawrth 1927 yn Nantyffyllon , Maesteg .

Meddai ar athrylith gartrefol a dawn ymadrodd anghyffredin, a byddai'n cyfareddu cynulleidfaoedd â'i bregethau pert a'i actio pertach. Bu ganddo lofa fechan a fferm fechan, eithr ni chafodd fawr hwyl gyda'r naill na'r llall; llwyddai'n well gyda'i ddarlithiau ar ‘ Abraham ’, ‘ Dyn ar dramp ’, ‘ Gwersi teuluaidd ’, a'i bregethau ar yr ‘ Iâr a'r cywion ’ a'r ‘ Pydew erchyll ’.

Llyfryddiaeth:

  • Adnabyddiaeth bersonol.

Awdur:

Y Parch. William Joseph Rhys, (1880-1967), Gelli, Rhondda / Treherbert