ALLEN, JAMES (1802 - 1897), deon Tyddewi a hynafiaethydd

Enw: James Allen
Dyddiad geni: 1802
Dyddiad marw: 1897
Priod: Isabella Dorothea Allen (née Hoare)
Rhiant: David Bord Allen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: deon Tyddewi a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John Williams James

Ganwyd 15 Gorffennaf 1802, mab David Bord Allen, rheithor Burton, Sir Benfro. Cafodd ei addysg yn ysgolion Westminster a Charterhouse ac yng Ngholeg y Drindod, Caer-grawnt (B.A., 1825, M.A., 1829). Fe'i hordeiniwyd yn ddiacon, 1834, ac yn offeiriad, 1835; bu'n gurad Miserden, swydd Gaerloyw, 1834-9, ficer Castell-Martin, Sir Benfro, 1839-1872, deon gwladol Castell-Martin, 1840-1875, canon Tyddewi, 1847-1870, canghellor a chanon preswyl Tyddewi, 1870-8, a deon gwladol Pebidiog, 1875; a bu'n ddeon eglwys gadeiriol Tyddewi, 1878-1895.

Priododd Isabella Dorothea, ferch Peter R. Hoare, Kilsey Hall, swydd Caint.

Yr oedd yn hynafiaethydd da ac yn aelod selog o'r 'Cambrian Archaeological Association.' Rhoes lawer o'i amser a'i arian tuag at y gwaith o adnewyddu'r eglwys gadeiriol (yn arbennig rhan o gorff yr eglwys, un o'r darnau croes, llyfrgell capel S. Thomas, y trysordy, a nennau capel yr esgob Vaughan a'r is-gapelau). Bu farw 25 Mehefin 1897.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.