AIDAN, sant. Bu fyw yn y 6ed ganrif.

Enw: Aidan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant.
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Sonnir amdano hefyd wrth yr enwau Aidus, Maidoc, a Madoc. Dengys ei 'Fuchedd,' fel y mae yn MS. Cotton. Vesp. A. xiv yn yr Amgueddfa Brydeinig, a hefyd fel y'i ceir yn Acta Sanctorum Colgan, mai yn Iwerddon y gwnaeth ei brif waith fel sant. Ond treuliodd ei fywyd cynnar yng ngorllewin Deheubarth Cymru, lle y bu'n ddisgybl i Ddewi Sant, a lle hefyd y cedwir ef mewn cof yn enw llawer pentref ac yng nghyflwyniad llawer eglwys. Bu'r cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn agos iawn yn Oes y Seintiau. Yn ei 'Fuchedd' cofnodir hanesion am y gwyrthiau a gyflawnwyd gan Aidan yn amser ei ymwneud â Dewi. Dywedir iddo hefyd, yn ddiweddarach yn ei fywyd, ddychwelyd i Gymru ar dro i weld ei hen athro. Ym 'Muchedd' Dewi Sant a gyfansoddwyd gan Rygyfarch ceir sôn am ragor o weithredoedd nerthol y bu i Aidan ran ynddynt, ac ym 'Muchedd' Cadog Sant gellir darllen fod Aidan yn bresennol ar adeg yr anghydfod rhwng Cadog a'r brenin Arthur. Yn ôl trefn llyfrau gwasanaeth yr Eglwys Wyddelig telir gwrogaeth i Aidan Sant ar y dydd olaf o fis Ionawr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.