AFAN
(yn
gynnar yn y 6ed g.
),
nawdd-sant
.
Fe'i disgrifir fel mab
Cedig ap Ceredig ap Cunedda Wledig
ac fe'i cysylltir, o dan yr enw ‘
Afan Buellt
,’ â chantref
Buellt
yng
nghanolbarth Cymru
. Yma ceir dwy o'i eglwysi, sef
Llanafan Fawr
a
Llanafan Fach
; ceir y drydedd
Llanafan
yn
nyffryn Ystwyth
. Ceir arysgrif yn perthyn tua'r flwyddyn
1300
yn
Llanafan Fawr
yn darllen fel hyn:
‘Hic iacet sanctus Avanus Episcopus.’
Barnwyd oddi wrth hon ei fod yn
ben ar esgobaeth
yn y parthau hyn, eithr yn ei oes ef golygai'r teitl safle neu radd yn hytrach na thiriogaeth.
Hydref 16 (neu 17)
ydyw ei ddydd
gŵyl, ac o'r
Lladin
‘
Amandus
’ y deillia ei enw.
Llyfryddiaeth:
-
The Lives of the British Saints
, i, 114-5.
Awdur:
Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor