AELHAEARN (7fed ganrif), nawdd-sant

Enw: Aelhaearn
Rhiant: Hygarfael fab Cyndrwyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: nawdd-sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

Yn ôl rhestrau'r saint yr oedd yn fab Hygarfael, mab Cyndrwyn o Lystin Wennan (Moel Feliarth yn awr) ym mhlwyf Llangadfan, Sir Drefaldwyn. Iddo ef y priodolir sefydlu Cegidfa, Llanael-haearn, a chapel arall o'r un enw nad ydyw mewn bod yn awr ond a gynrychiolir gan Gwyddelwern. Cofir am ei enw, a geir yn aml ar y ffurf Elhaearn, yn Ffynnon Aelhaearn, ffynnon sanctaidd y credid gynt fod rhinwedd gwella yn ei dyfroedd; heddiw rhydd ddwr i bentref Llanaelhaearn. Tachwedd 1 yw dydd gwyl Aelhaearn. Ni wyddys ddim o'i hanes, eithr y mae'r cyflwyniadau eglwysig yn ein tueddu i gredu'r farn ei fod yn un o ddisgyblion Beuno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.