ADDA FRAS
(
1240?
-
1320?
),
bardd a brudiwr o fri
.
Yn ôl
Dr.
John
Davies
a
Thomas
Stephens
, blodeuai tua
1240
. Cyfeirir ato yn
Peniarth MS. 94 (26)
, a
Llanstephan MS. 119 (82)
fel gŵr yn byw tua
1038
, ac yn cydoesi â
Goronwy Ddu o Fôn
. Ond yn
G. P.
Jones
,
Anglesey Court Rolls, 1346
, tt. 37 a 39, ceir sôn am ‘the son of
Adda Fras
’, a ‘the suit of
Goronwy Ddu
,
attorney
for the community of the Township of
Porthgir
.’ Yn
Dafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr
156 cyplysir ef â
Chasnodyn
(
c.
1290
-
1340
)
gan
Gruffydd Gryg
(
c.
1340
-
1412
)
. Buasai
1240
-
1320
, felly, heb fod ymhell o'i le fel cyfnod ei oes. Claddwyd ef yn
abaty Maenan
ger
Conwy
(
Gwaith Tudur Aled
, i, 83). Ei
athro
, yn ôl
Llanstephan MS. 133 (617)
, oedd
Wmbar
.
Y mae'r beirdd diweddarach yn cyfeirio ato'n fynych yn y marwnadau a ganent i'w gilydd, nid yn unig fel
daroganwr
, ond fel
meistr ar gelfyddyd y beirdd
, e.e. yn
Peniarth MS. 94 (144)
a
Gwaith Tudur Aled
, ii, 743, ac, yn arbennig, farwnad
Tudur Aled
i
Ddafydd ab Edmwnt
(nad oedd yn enwog fel
daroganwr
) (ibid., i, 283). Ychydig, yn gymharol, o'i waith a ddaeth i lawr i ni. Ni ellir bod yn gwbl sicr, ar hyn o bryd, faint ohono sy'n ddilys, oblegid priodolir peth ohono i feirdd eraill.
Llyfryddiaeth:
- Llawysgrif Peniarth yn Llyfrgell Genedlaethol
Cymru;
- Llawysgrifau Llanstephan yn Llyfrgell
Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
;
- Gwilym Peredur Jones, Anglesey Court Rolls
yn Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a
Naturiaethwyr Môn
;
- Ifor Williams a Thomas Roberts, (gol.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a’i
Gyfoeswyr
, 1914;
- T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled
, 1926.
Awdur:
Raymond Wallis Evans, M.A., (1910-2001), Abertawe / Bangor