ADAMS, WILLIAM (1813 - 1886), arbenigwr mewn mwnau

Enw: William Adams
Dyddiad geni: 1813
Dyddiad marw: 1886
Rhiant: Mary Adams
Rhiant: John Adams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arbenigwr mewn mwnau
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Thomas Mardy Rees

Ganwyd yn Penycae, Ebbw Vale, 10 Hydref 1813, mab John a Mary Adams. Glowr oedd ei dad ar y pryd ac yn hynod fedrus yn y gwaith hwnnw, a daeth yn gynrychiolydd mwnawl dros Charles Lloyd Harford & Co.

Addysgwyd William yn Ysgol Ramadeg Pontfaen. Prentisiwyd ef yn 1828 gyda Charles Lloyd Harford, ac yng nghwrs amser daeth yn arbenigwr yn ei gangen ef ei hun o'r gwaith. Cyhoeddodd Science of Mining (1870), heblaw astudiaeth o ddaeareg maes glo De Cymru. Yr oedd wedi symud yn 1865 i Gaerdydd, lle yr agorodd fusnes fel cynrychiolydd pyllau glo ac fel peiriannydd mwnawl. Cymerth ddiddordeb yn Llyfrgell Gyhoeddus Caerdydd a rhoes iddi gasgliad o ffosylau wedi eu cael yng nglofeydd De Cymru. Yr oedd yn un o aelodau cyntaf y ' Cardiff Naturalists Society.' Bu farw 17 Awst 1886.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.