ADAMS, ROGER (bu farw 1741), argraffydd yng Nghaer

Enw: Roger Adams
Dyddiad marw: 1741
Priod: Elizabeth Adams (née Buckley)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd yng Nghaer
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Cafodd ryddfreiniad dinas Caer ar 20 Chwefror 1713-4. Er nad oes sicrwydd bod Roger Adams yn Gymro caiff ei grybwyll yma am ei fod gyda'r cyntaf i argraffu llyfrau a baledi Cymraeg yng Nghaer. Ei lyfr Cymraeg cyntaf, y mae'n bosibl, ydoedd Ystyriaethau o Gyflwr Dyn, 1724. Yn 1730 dechreuodd argraffu newyddiadur a ddaeth yn adnabyddus ac a ddarllennid yng Ngogledd Cymru, sef Adams's Chester Weekly Courant. Efe, hefyd, a argraffodd John Reynolds, The Scripture Genealogy and Display of Herauldry, 1739. Wedi ei farw bu ei weddw, ELIZABETH ADAMS, yn dwyn y busnes ymlaen. Hyhi a argraffodd Cydymaith Diddan (Dafydd Jones o Drefriw), 1766; argraffodd hefyd, e.e. yn 1752 a 1753, lawer o faledi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.