ADAMS, DAVID (1845 - 1922), diwinydd

Enw: David Adams
Dyddiad geni: 1845
Dyddiad marw: 1922
Rhiant: Margaret Adams
Rhiant: John Adams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwinydd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Oliver Stephens

Ganwyd 28 Awst 1845 yn Nhalybont, Ceredigion, i John a Margaret Adams. Crydd oedd ei dad, yn wr blaenllaw mewn diwylliant gwledig, a phregethwr cynorthwyol. Anfonwyd David i ysgol ramadeg Llanfihangel, lle y dysgodd elfennau Lladin a Groeg. Pan gyfyngwyd yr ysgol i fynychwyr yr Eglwys gadawodd hi am y gwaith mwyn. Wedi tair blynedd dychwelodd i ysgol Talybont fel ' pupil teacher.' Yn 1863 aeth i Goleg Normal Bangor. Yn 1867 dechreuodd fel ysgolfeistr yn y Bryn, Llanelli. Yn 1869 aeth i Goleg Normal Abertawe. Bu'n ysgolfeistr yn Ystradgynlais yn 1870-2. Wedi cyfnod o waelder iechyd enillodd ysgoloriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle y graddiodd yn B.A. (Prifysgol Llundain) yn 1877. Yn 1878 ordeiniwyd ef yn weinidog yn Hawen a Bryngwenith (A.), pryd yr amlygodd ei wroldeb a'i annibyniaeth meddwl.

Yn y cyfnod cyn ei ddydd ef ni phrofasai Cymru 'r chwyldro mewn diwinyddiaeth a gychwynnodd yn yr Almaen ac a dreiddiodd yn araf i Loegr. Efe oedd arloeswr y mudiad yng Nghymru, a deil ei gofiannydd, E. Keri Evans, 'y rhydd hanesydd diwinyddol y dyfodol iddo le amlwg, ac efallai'r amlycaf oll, yn natblygiad diwinyddiaeth Cymru yn niwedd y ganrif ddiweddaf.'

Dwy agwedd amlwg ei weinidogaeth gynnar oedd ei ymdrech ym mhlaid sobrwydd a'i lafur gwerthfawr fel holwr ysgolion Sul. Yn 1884 enillodd ar draethawd ar Hegel yn eisteddfod genedlaethol Lerpwl. O hyn ymlaen ceisiodd (yn ei eiriau ei hun) 'wneuthur i ffwrdd â'r syniad o ddigwyddiad ('contingency') mewn diwinyddiaeth, a dwyn i mewn angenrheidrwydd hanfodol yn ei le.'

Yn 1888 symudodd i Fethesda, Sir Gaernarfon. Yn ei bregethu yno daeth i bwysleisio agweddau moesol yn hytrach na phynciau dadleuol y ffydd Gristnogol. Bu ei lwyddiant yn fawr ym meysydd barddoniaeth, athroniaeth, a diwinyddiaeth. Yn 1893 bu'n gydfuddugol ar draethawd ar ' Datblygiad yn ei berthynas â'r Cwymp, yr Ymgnawdoliad, a'r Atgyfodiad.' Ni ellir edrych ar yr Ymgnawdoliad - gwirionedd canolog hanes dyn - fel yn dibynnu ar y 'digwyddiad' o gwymp dyn. Y mae Achosaeth Ddwyfol, resymol, angenrheidiol yn rhedeg trwy'r bydysawd materol ac ysbrydol, a thrwy hanes i gyd, ac nid yw Datblygiad ond dull yr Achos anfeidrol hwn o sylweddoli ei amcan hanesyddol. Dyma'i gyfraniad mwyaf sylweddol a chadarnhaol i ddiwinyddiaeth Cymru.

Yn 1895 symudodd i Grove Street, Lerpwl. Yn ei lyfr, Paul yng Ngoleuni'r Iesu 1897, gwelir nodwedd arbenicaf ei feddwl a'i ysbryd, sef ei angerdd moesol. Gwraidd ei elyniaeth yn erbyn Calfiniaeth, Penarglwyddiaeth, Cyfrifiad, Iawn dyhuddol, Cyfiawnhad deddfol, oedd ei ofn eu bod yn torri o dan seiliau moesoldeb.

Yn 1913 bu'n gadeirydd yr Undeb Annibynnol Cymraeg. Yn ei lyfr diwethaf, Yr Eglwys a Gwareiddiad Diweddar, 1914, symuda yn eglur trwy Grist hanes at y Crist byw, mewnol, fel sylfaen ac awdurdod parhaus yr Eglwys.

Yn 1922 cafodd wybod y bwriadai Prifysgol Cymru roddi iddo'r radd o D.D. Ond cyn ei derbyn trawyd ef yn glaf a bu farw 5 Gorffennaf 1922, a'i gladdu yn Nhalybont.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.