ABRAHAM, WILLIAM ('Mabon'; 1842-1922), aelod seneddol a llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru

Enw: William Abraham
Ffugenw: Mabon
Dyddiad geni: 1842
Dyddiad marw: 1922
Priod: Sarah Abraham (née Williams)
Rhiant: Mary Abraham
Rhiant: Thomas Abraham
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: aelod seneddol a llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Huw Morris-Jones

Ganwyd 14 Mehefin 1842 yng Nghwmafan, pedwerydd mab Thomas a Mary Abraham. Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol Cwmafon. Bu am gyfnod yn weithiwr alcam ac yna'n lowr, gan ddechrau fel bachgen yn gwylio'r drws. Yn 1870 etholwyd ef yn gynrychiolydd y glowyr, a bu'n flaenllaw yn yr ymdrechion a wnaed i gael cytundeb i bennu cyflogau'r gweithwyr yn ôl prisiau a phroffidiau'r diwydiant. Ef oedd llywydd y glowyr ar y ' Joint Sliding Scale Association ' o 1875 hyd ei ddiwedd yn 1903. Ni weithiai y glowyr ar ddydd Llun cyntaf y mis o 1892 i 1898, er mwyn cwtogi cynnyrch a sefydlogi cyflogau. Galwyd y dydd yn 'Ddiwrnod Mabon.'

Yn 1885 etholwyd ef yn aelod seneddol dros y Rhondda, ac ef oedd y glowr cyntaf i'w ethol o Ddeheudir Cymru. Cynrychiolodd orllewin Rhondda o 1918 i 1922. Cysylltodd ei hun â'r elfen radicalaidd yn y Blaid Ryddfrydol ar y dechrau hyd 1906, ac yna daeth y Blaid Lafur yn sefydliad annibynnol, er na chysylltwyd Ffederasiwn y Glowyr â'r Blaid tan 1909.

Eithr ni chymerodd Mabon le blaenllaw yn y byd gwleidyddol; erys ei bwysigrwydd hanesyddol yn natblygiad undebaeth llafur yng Nghymru. Casgliad o gymdeithasau lleol ac annibynnol oedd undebau'r glowyr i ddechrau, a cheisiodd Mabon ddiogelu eu hannibyniaeth ar waethaf penderfyniad y glowyr ieuainc i sefydlu un corff canolog a chadarn. Buont yn llwyddiannus yn hyn, a sefydlwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn 1898 a Mabon yn llywydd iddo. Ceisiodd gymodi a chymedroli yn ystod ei lywyddiaeth, eithr methodd ag atal y drwgdeimlad a'r chwerwedd a fu'n tyfu yn y diwydiant ac a achosodd streic gyffredinol yn 1912.

Diddordeb mawr arall ei fywyd oedd yr eisteddfod. Yn herwydd ei gorff cadarn a'i lais cyrhaeddgar daeth yn enwog fel arweinydd effeithiol yn eisteddfodau diwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif. Dyna'r cyfnod yr oedd tyrfaoedd mawrion yn tyrru i'r eisteddfodau. Gan ei fod wedi ei ddonio â llais tenor clir, canai yn fynych i'r cynulleidfaoedd.

Yn 1860 priododd Sarah, merch David Williams. Bu iddynt dri mab a thair merch. Bu hi farw yn 1900.

Etholwyd Mabon yn aelod o'r Cyfrin Gyngor yn 1911. Bu farw yn y Pentre, Rhondda, 14 Mai 1922.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.