ABEL, SIÔN, baledwr o'r 18fed ganrif yn trigo yn sir Drefaldwyn

Enw: Siôn Abel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: baledwr o'r 18fed ganrif yn trigo yn sir Drefaldwyn
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Ef oedd awdur ' Cerdd yn erbyn medd-dod, celwydd a chybydd-dra ', a gyhoeddwyd yn un o dair cerdd mewn llyfryn o wasg H. Lloyd, Amwythig, sef rhif 154 yn y Bibliography of Welsh Ballads (J. H. Davies).

Fe geir hefyd yn NLW MS 14402B , sydd yn gasgliad yn llaw Humphrey Jones, o Gastell Caereinion (ganwyd 1719), o gerddi gan feirdd o ardaloedd Meifod a Chaereinion (ymhlith pethau eraill), ddarn Saesneg o ddeg pennill ar fesur trithrawiad. Dwg y teitl ' A Christmas Carol, 1783, o waith fy hen feistr.' Ar ddiwedd y darn fe geir 'yr hen Siôn Abel a'i canodd.' Hwyrach y gellir credu nad oedd cartre Siôn Abel, yr athro, ymhell o drigle'r disgybl, sef Humphrey Jones o Gaereinion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.